Cyfarfodydd
NDM8665 Dadl Plaid Cymru - Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/09/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/09/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
NDM8665 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad
blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
2. Yn gresynu:
a) wedi 25 mlynedd o
lywodraethu, na allai Llywodraeth Lafur ddiweddaraf Cymru nodi blaenoriaethau
pobl Cymru heb 'ymarfer gwrando' a gychwynnwyd gan y Prif Weinidog; a
b) fod cerrig milltir,
targedau a dyddiadau cyflawni yn absennol o ddatganiad blaenoriaethau'r Prif
Weinidog.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) pennu amserlen ar
gyfer lleihau rhestrau aros y GIG;
b) cyhoeddi cynllun
cyflawni sy'n seiliedig ar yr ystod o 'flaenoriaethau’r bobl', yn cynnwys, ond
heb fod yn gyfyngedig i, gerrig milltir, targedau, a dyddiadau cyflawni;
c) cyflwyno Rhaglen
Lywodraethu a Rhaglen Deddfwriaethol wedi'i diweddaru; a
d) anrhydeddu ei
egwyddor 'partneriaeth mewn grym' drwy ddefnyddio'r holl sianeli
rhynglywodraethol i bwyso ar Lywodraeth y DU am gyllid teg, datganoli Ystad y
Goron ac i ddatganoli cyfiawnder yn llawn.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad
blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
2. Yn cefnogi ffocws y
Llywodraeth ar flaenoriaethu’r bobl ac yn cymeradwyo’r blaenoriaethau fel y’u
nodwyd gan y Prif Weinidog.
3. Yn nodi ymhellach
ymrwymiad y Prif Weinidog i ddarparu, maes o law, ragor o fanylion am sut y
bydd y blaenoriaethau yn cael eu cyflawni.
4. Yn cymeradwyo
ymrwymiad y Llywodraeth i:
a) iechyd da – lleihau
amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl, a
gwella mynediad at ofal cymdeithasol a gwella gwasanaethau iechyd menywod;
b) swyddi gwyrdd a thwf
– creu swyddi gwyrdd i sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill, mynd i'r afael â'r
argyfwng hinsawdd a diogelu natur, a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu
economi Cymru;
c) cyfle i bob teulu –
hybu safonau yn ein hysgolion a'n colegau, a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer
y sector rhent cymdeithasol; a
d) cysylltu cymunedau –
trawsnewid ein rheilffyrdd a darparu gwell rhwydwaith bysiau, trwsio ein
ffyrdd, a grymuso cymunedau lleol i benderfynu ar y terfyn cyflymder 20mya.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2:
nad yw Llywodraeth Cymru
yn gwrando ar y cannoedd o filoedd o bensiynwyr yng Nghymru a fydd yn cael eu
heffeithio'n andwyol gan doriadau Llywodraeth y DU i daliadau tanwydd gaeaf;
Gwelliant 3 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwynt 3(d) a
rhoi yn ei le:
anrhydeddu
ei egwyddor 'partneriaeth mewn grym' drwy ddefnyddio'r holl sianeli
rhynglywodraethol i bwyso ar Lywodraeth y DU am symiau canlyniadol o HS2 i
Gymru ac i fwrw ymlaen â thrydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru;
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8665 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
2. Yn gresynu:
a) wedi 25 mlynedd o lywodraethu, na allai Llywodraeth
Lafur ddiweddaraf Cymru nodi blaenoriaethau pobl Cymru heb 'ymarfer gwrando' a
gychwynnwyd gan y Prif Weinidog; a
b) fod cerrig milltir, targedau a dyddiadau cyflawni yn
absennol o ddatganiad blaenoriaethau'r Prif Weinidog.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) pennu amserlen ar gyfer lleihau rhestrau aros y GIG;
b) cyhoeddi cynllun cyflawni sy'n seiliedig ar yr ystod o
'flaenoriaethau’r bobl', yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gerrig
milltir, targedau, a dyddiadau cyflawni;
c) cyflwyno Rhaglen Lywodraethu a Rhaglen Deddfwriaethol
wedi'i diweddaru; a
d) anrhydeddu ei egwyddor 'partneriaeth mewn grym' drwy
ddefnyddio'r holl sianeli rhynglywodraethol i bwyso ar Lywodraeth y DU am
gyllid teg, datganoli Ystad y Goron ac i ddatganoli cyfiawnder yn llawn.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
41 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
2. Yn cefnogi ffocws y Llywodraeth ar flaenoriaethu’r
bobl ac yn cymeradwyo’r blaenoriaethau fel y’u nodwyd gan y Prif Weinidog.
3. Yn nodi ymhellach ymrwymiad y Prif Weinidog i
ddarparu, maes o law, ragor o fanylion am sut y bydd y blaenoriaethau yn cael
eu cyflawni.
4. Yn cymeradwyo ymrwymiad y Llywodraeth i:
a) iechyd da – lleihau amseroedd aros yn y Gwasanaeth
Iechyd, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl, a gwella mynediad at ofal
cymdeithasol a gwella gwasanaethau iechyd menywod;
b) swyddi gwyrdd a thwf – creu swyddi gwyrdd i sicrhau
bod teuluoedd ar eu hennill, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diogelu
natur, a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru;
c) cyfle i bob teulu – hybu safonau yn ein hysgolion a'n
colegau, a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer y sector rhent cymdeithasol; a
d) cysylltu cymunedau – trawsnewid ein rheilffyrdd a
darparu gwell rhwydwaith bysiau, trwsio ein ffyrdd, a grymuso cymunedau lleol i
benderfynu ar y terfyn cyflymder 20mya.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
2. Yn cefnogi ffocws y Llywodraeth ar flaenoriaethu’r
bobl ac yn cymeradwyo’r blaenoriaethau fel y’u nodwyd gan y Prif Weinidog.
3. Yn nodi ymhellach ymrwymiad y Prif Weinidog i
ddarparu, maes o law, ragor o fanylion am sut y bydd y blaenoriaethau yn cael
eu cyflawni.
4. Yn cymeradwyo ymrwymiad y Llywodraeth i:
a) iechyd da – lleihau amseroedd aros yn y Gwasanaeth
Iechyd, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl, a gwella mynediad at ofal
cymdeithasol a gwella gwasanaethau iechyd menywod;
b) swyddi gwyrdd a thwf – creu swyddi gwyrdd i sicrhau
bod teuluoedd ar eu hennill, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diogelu
natur, a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru;
c) cyfle i bob teulu – hybu safonau yn ein hysgolion a'n
colegau, a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer y sector rhent cymdeithasol; a
d) cysylltu cymunedau – trawsnewid ein rheilffyrdd a
darparu gwell rhwydwaith bysiau, trwsio ein ffyrdd, a grymuso cymunedau lleol i
benderfynu ar y terfyn cyflymder 20mya.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.