Cyfarfodydd
NDM8667 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Terfynau cyflymder 20mya
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/09/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/09/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Terfynau cyflymder 20mya
NDM8667 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y
terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi bod ar waith yng Nghymru ers dros
flwyddyn.
2. Yn nodi:
a) y 469,571 o bobl a
lofnododd ddeiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r gyfraith
drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’;
b) y Memorandwm
Esboniadol gan Lywodraeth Cymru ei hun ar gyfer Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig
(Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022, lle nodwyd anfantais economaidd o hyd at
£8.9 biliwn yn sgil yr amseroedd teithio hirach a fyddai’n gysylltiedig â'r
polisi terfyn cyflymder diofyn o 20mya;
c) sylwadau'r
cyn-Ddirprwy Weinidog Trafnidiaeth y dylid bod wedi defnyddio mwy o synnwyr
cyffredin wrth gyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya yng Nghymru;
d) adroddiad monitro
ansawdd aer Trafnidiaeth Cymru sy’n dangos, o ran hanner yr ardaloedd lle
cynhaliwyd profion, y bu cynnydd mewn lefelau nitrogen deuocsid y tu mewn i’r
parthau 20mya o'i gymharu â'r tu allan; ac
e) bod awdurdodau lleol
Cymru wedi cael ceisiadau i newid miloedd o ffyrdd o 20mya yn ôl i 30mya.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru:
a) i ddiddymu'r terfyn
cyflymder diofyn o 20mya; a
b) i weithio gydag
awdurdodau lleol Cymru i gyflwyno dull wedi'i dargedu o bennu terfynau
cyflymder o 20mya, sydd â chydsyniad pobl leol.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd
1. Yn nodi:
a) bod y terfyn
cyflymder rhagosodedig o 20mya wedi bod ar waith yng Nghymru ers dros flwyddyn;
a
b) cefnogaeth
drawsbleidiol flaenorol y Senedd ar gyfer cyflwyno terfynau cyflymder o 20mya
yng Nghymru a phresenoldeb cynlluniau tebyg mewn cynghorau sy'n cael eu rhedeg
gan y Ceidwadwyr yn Lloegr.
2. Yn credu, o'u
gweithredu'n briodol ac yn rhesymegol, bod gan derfynau cyflymder 20mya rôl
ddefnyddiol wrth wneud cymunedau'n fwy diogel a lleihau'r pwysau ar y GIG.
3. Yn gresynu at yr oedi
gan Lywodraeth Cymru wrth weithredu ar welliant Plaid Cymru a gefnogir gan y
Senedd, a fyddai wedi grymuso cymunedau ar unwaith i adolygu a gwneud
eithriadau pellach yn ogystal ag adolygu'r canllawiau i awdurdodau lleol.
4. Yn cydnabod cryfder
teimladau ar y mater hwn o ganlyniad i weithredu, ymgysylltu a chyfathrebu
anghyson ynghylch y newidiadau.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr adolygiad
presennol yn mynd i'r afael â'r pryderon y gellir eu cyfiawnhau, a'i fod ag
adnoddau digonol.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1.
Yn cydnabod bod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi bod mewn grym yng
Nghymru ers dros flwyddyn.
2.
Yn nodi:
a) y
gostyngiad sylweddol mewn gwrthdrawiadau ac anafusion ers cyflwyno’r terfyn; a
b) y ffaith
bod 469,571 o bobl wedi llofnodi deiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru
ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’
c) y
rhaglen gynhwysfawr o wrando a gynhaliwyd dros yr haf, gan ymgysylltu â phobl,
busnesau a chymunedau ledled Cymru yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol;
d) y ffaith
y bydd y gwaith monitro a gwerthuso parhaus yn casglu tystiolaeth o
effeithiau’r polisi o ran yr economi, iechyd a’r amgylchedd;
e) y ffaith
bod adroddiad monitro ansawdd aer Cam 1 Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis
Mai 2024 yn dangos nad oedd unrhyw effaith sylweddol ar ansawdd aer lleol hyd
yma; ac
f) y
gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i awdurdodau lleol Cymru sydd
wedi derbyn ceisiadau i newid y terfyn i 30mya ar rai ffyrdd.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi awdurdodau lleol
Cymru er mwyn cyflawni terfynau cyflymder 20mya trwy ddull targedu, gan sicrhau
bod y terfyn mewn grym ar y ffyrdd cywir ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn
chwarae.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.32
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8667 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi
bod ar waith yng Nghymru ers dros flwyddyn.
2. Yn nodi:
a) y 469,571 o bobl a lofnododd ddeiseb y Senedd: ‘Rydym
am i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn
cyflymder o 20mya’;
b) y Memorandwm Esboniadol gan Lywodraeth Cymru ei hun ar
gyfer Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022, lle
nodwyd anfantais economaidd o hyd at £8.9 biliwn yn sgil yr amseroedd teithio
hirach a fyddai’n gysylltiedig â'r polisi terfyn cyflymder diofyn o 20mya;
c) sylwadau'r cyn-Ddirprwy Weinidog Trafnidiaeth y dylid
bod wedi defnyddio mwy o synnwyr cyffredin wrth gyflwyno’r terfyn cyflymder
20mya yng Nghymru;
d) adroddiad monitro ansawdd aer Trafnidiaeth Cymru sy’n
dangos, o ran hanner yr ardaloedd lle cynhaliwyd profion, y bu cynnydd mewn
lefelau nitrogen deuocsid y tu mewn i’r parthau 20mya o'i gymharu â'r tu allan;
ac
e) bod awdurdodau lleol Cymru wedi cael ceisiadau i newid
miloedd o ffyrdd o 20mya yn ôl i 30mya.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i ddiddymu'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya; a
b) i weithio gydag awdurdodau lleol Cymru i gyflwyno dull
wedi'i dargedu o bennu terfynau cyflymder o 20mya, sydd â chydsyniad pobl leol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
14 |
0 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd
1. Yn nodi:
a) bod y terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya wedi bod
ar waith yng Nghymru ers dros flwyddyn; a
b) cefnogaeth drawsbleidiol flaenorol y Senedd ar gyfer
cyflwyno terfynau cyflymder o 20mya yng Nghymru a phresenoldeb cynlluniau tebyg
mewn cynghorau sy'n cael eu rhedeg gan y Ceidwadwyr yn Lloegr.
2. Yn credu, o'u gweithredu'n briodol ac yn rhesymegol,
bod gan derfynau cyflymder 20mya rôl ddefnyddiol wrth wneud cymunedau'n fwy
diogel a lleihau'r pwysau ar y GIG.
3. Yn gresynu at yr oedi gan Lywodraeth Cymru wrth
weithredu ar welliant Plaid Cymru a gefnogir gan y Senedd, a fyddai wedi
grymuso cymunedau ar unwaith i adolygu a gwneud eithriadau pellach yn ogystal
ag adolygu'r canllawiau i awdurdodau lleol.
4. Yn cydnabod cryfder teimladau ar y mater hwn o
ganlyniad i weithredu, ymgysylltu a chyfathrebu anghyson ynghylch y newidiadau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gydag
awdurdodau lleol i sicrhau bod yr adolygiad presennol yn mynd i'r afael â'r
pryderon y gellir eu cyfiawnhau, a'i fod ag adnoddau digonol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
41 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y terfyn
cyflymder diofyn o 20mya wedi bod mewn grym yng Nghymru ers dros flwyddyn.
2. Yn nodi:
a) y gostyngiad sylweddol mewn
gwrthdrawiadau ac anafusion ers cyflwyno’r terfyn; a
b) y ffaith bod 469,571 o bobl wedi llofnodi
deiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus
ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’
c) y rhaglen gynhwysfawr o wrando a
gynhaliwyd dros yr haf, gan ymgysylltu â phobl, busnesau a chymunedau ledled
Cymru yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol;
d) y ffaith y bydd y gwaith monitro a
gwerthuso parhaus yn casglu tystiolaeth o effeithiau’r polisi o ran yr economi,
iechyd a’r amgylchedd;
e) y ffaith bod adroddiad monitro ansawdd
aer Cam 1 Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024 yn dangos nad oedd
unrhyw effaith sylweddol ar ansawdd aer lleol hyd yma; ac
f) y gefnogaeth y mae Llywodraeth
Cymru yn ei darparu i awdurdodau lleol Cymru sydd wedi derbyn ceisiadau i newid
y terfyn i 30mya ar rai ffyrdd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
barhau i gefnogi awdurdodau lleol Cymru er mwyn cyflawni terfynau cyflymder
20mya trwy ddull targedu, gan sicrhau bod y terfyn mewn grym ar y ffyrdd cywir
ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y terfyn
cyflymder diofyn o 20mya wedi bod mewn grym yng Nghymru ers dros flwyddyn.
2. Yn nodi:
a) y gostyngiad sylweddol mewn
gwrthdrawiadau ac anafusion ers cyflwyno’r terfyn; a
b) y ffaith bod 469,571 o bobl wedi llofnodi
deiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus
ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’
c) y rhaglen gynhwysfawr o wrando a
gynhaliwyd dros yr haf, gan ymgysylltu â phobl, busnesau a chymunedau ledled
Cymru yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol;
d) y ffaith y bydd y gwaith monitro a
gwerthuso parhaus yn casglu tystiolaeth o effeithiau’r polisi o ran yr economi,
iechyd a’r amgylchedd;
e) y ffaith bod adroddiad monitro ansawdd
aer Cam 1 Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024 yn dangos nad oedd
unrhyw effaith sylweddol ar ansawdd aer lleol hyd yma; ac
f) y gefnogaeth y mae Llywodraeth
Cymru yn ei darparu i awdurdodau lleol Cymru sydd wedi derbyn ceisiadau i newid
y terfyn i 30mya ar rai ffyrdd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
barhau i gefnogi awdurdodau lleol Cymru er mwyn cyflawni terfynau cyflymder
20mya trwy ddull targedu, gan sicrhau bod y terfyn mewn grym ar y ffyrdd cywir
ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.