Cyfarfodydd

P-06-1469 Rhaid i bolisïau neu brosiectau’r Llywodraeth sy’n costio dros £10 miliwn gael eu cymeradwyo gan etholwyr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/01/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1469 Rhaid i bolisïau neu brosiectau'r Llywodraeth sy'n costio dros £10 miliwn gael eu cymeradwyo gan etholwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd fod £10 miliwn yn derfyn afrealistig. Mae gan y Senedd eisoes broses wedi'i nodi'n glir ar gyfer craffu ar y gyllideb ac nid yw deisebau blaenorol sy'n galw am fesurau tebyg wedi gwneud unrhyw gynnydd. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.