Cyfarfodydd

P-06-1459 Mae datblygiadau ffermydd gwynt yn debyg i foddi cymoedd Cymru a’r hen ddiwydiant llechi. Stopiwch nhw.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/12/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1459 Mae datblygiadau ffermydd gwynt yn debyg i foddi cymoedd Cymru a’r hen ddiwydiant llechi. Stopiwch nhw.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei safbwynt ar ddatblygiadau ffermydd gwynt yn glir iawn yn ei hymateb, ac ar y sail honno diolchodd y Pwyllgor i’r deisebydd am godi’r mater ond cytunodd i gau’r ddeiseb.

 

Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am nodi y byddai digon o gyfleoedd i Aelodau’r Senedd drafod materion cynhyrchu ynni, budd cymunedol a diogelu bioamrywiaeth, yn ogystal ag a oedd safleoedd penodol yn addas ai peidio.  Byddai hynny’n cynnwys dadleuon fel rhan o’r broses cydsyniad deddfwriaethol pan ddaeth cynnig cydsyniad deddfwriaethol GB Energy drwy’r Senedd.