Cyfarfodydd

Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/09/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Opsiynau ar gyfer ymdrin â 'Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal'

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i ystyried canfyddiadau adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru fel rhan o’i waith craffu ar ddeddfwriaeth sydd ar y gweill ynghylch gofal.

 


Cyfarfod: 24/09/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal'

PAC(4) 17-12 – Papur 1 – Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal’

 

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Stephen Martin, Rheolwr – Archwilio Perfformiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu i’r Cadeirydd wahodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i friffio’r Pwyllgor ar ei adroddiad ‘Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal’.

 

Pwynt gweithredu:

 

Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:

 

·         Rhagor o fanylion am y model a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth yr Alban wrth helpu plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal i gael mynediad at addysg uwch.