Cyfarfodydd
P-06-1430 Cefnogi plant byddar trwy wneud ymrwymiad ariannol i adfer niferoedd athrawon plant byddar
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 28/04/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 28/04/2025 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 28/04/2025 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-06-1430 Cefnogi plant byddar trwy wneud ymrwymiad ariannol i adfer niferoedd athrawon plant byddar
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 3
PDF 43 KB
Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, 1 Ebrill 2025, Eitem 3
PDF 121 KB
- Gohebiaeth gan y Deisebydd, 22 Ebrill 2025 (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 111 KB
Gweld fel HTML (3/3) 15 KB
Cofnodion:
Trafododd yr
Aelodau y ddeiseb a chytunwyd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. Ond
wrth wneud hynny, fe wnaethant gytuno i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet
dros Addysg i ofyn am gadarnhad y bydd y rhai o'r sector cymunedol a gwirfoddol
sydd â'r arbenigedd priodol yn cael eu cynnwys wrth ddatblygu'r cynllun
gweithlu addysg strategol. Bydd copi o’r llythyr yn cael ei anfon at y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sydd â'r cylch gwaith o ran craffu.
Cyfarfod: 04/11/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/11/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/11/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
2 P-06-1430 Cefnogi plant byddar trwy wneud ymrwymiad ariannol i adfer niferoedd athrawon plant byddar
Dogfennau ategol:
- Briff Ymchwil, Eitem 2
PDF 216 KB
Gweld fel HTML (2/1) 78 KB
- Gohebiaeth gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar, 12 Tachwedd 2023 (Saesneg yn unig), Eitem 2
PDF 42 KB
- Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, 26 Mehefin 2024, Eitem 2
PDF 132 KB
- Gohebiaeth gan y deisebydd, 24 Hydref 2024 (Saesneg yn unig), Eitem 2
PDF 188 KB
Gweld fel HTML (2/4) 18 KB
- Gohebiaeth gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, 23 Hydref 2024 (Saesneg yn unig), Eitem 2
PDF 565 KB
Gweld fel HTML (2/5) 58 KB
Cofnodion:
Cyfarfu'r
Pwyllgor â deisebwyr cyn y cyfarfod a diolch iddynt am rannu eu profiadau. Mynegodd
yr Aelodau bryder y deisebwyr o ran plant byddar yn cael cymorth cyn gynted â
phosibl, a hefyd o ran bod hyfforddiant Athrawon Plant Byddar ar gael yng
Nghymru yn ogystal â Lloegr.
Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn iddi
ystyried ac ailystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod argymhelliad 32
o adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch mynediad i addysg.
Cytunodd y Cadeirydd y byddai'n siarad yn ystod y ddadl ar yr adroddiad i dynnu
sylw at y ddeiseb. Cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb yn agored gan eu bod
o’r farn y gellir gwneud rhagor o waith ar y mater.