Cyfarfodydd

P-06-1430 Cefnogi plant byddar trwy wneud ymrwymiad ariannol i adfer niferoedd athrawon plant byddar

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/04/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1430 Cefnogi plant byddar trwy wneud ymrwymiad ariannol i adfer niferoedd athrawon plant byddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y ddeiseb a chytunwyd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. Ond wrth wneud hynny, fe wnaethant gytuno i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am gadarnhad y bydd y rhai o'r sector cymunedol a gwirfoddol sydd â'r arbenigedd priodol yn cael eu cynnwys wrth ddatblygu'r cynllun gweithlu addysg strategol. Bydd copi o’r llythyr yn cael ei anfon at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sydd â'r cylch gwaith o ran craffu.

 


Cyfarfod: 04/11/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1430 Cefnogi plant byddar trwy wneud ymrwymiad ariannol i adfer niferoedd athrawon plant byddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyfarfu'r Pwyllgor â deisebwyr cyn y cyfarfod a diolch iddynt am rannu eu profiadau. Mynegodd yr Aelodau bryder y deisebwyr o ran plant byddar yn cael cymorth cyn gynted â phosibl, a hefyd o ran bod hyfforddiant Athrawon Plant Byddar ar gael yng Nghymru yn ogystal â Lloegr.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn iddi ystyried ac ailystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod argymhelliad 32 o adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch mynediad i addysg. Cytunodd y Cadeirydd y byddai'n siarad yn ystod y ddadl ar yr adroddiad i dynnu sylw at y ddeiseb. Cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb yn agored gan eu bod o’r farn y gellir gwneud rhagor o waith ar y mater.