Cyfarfodydd

P-06-1453 Darparu cyllid a chymorth ar gyfer darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus hygyrch a glân

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/03/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1453 Darparu cyllid a chymorth ar gyfer darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus hygyrch a glân.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bydd yr Aelodau'n parhau i godi pwysigrwydd darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus. Fodd bynnag, roeddent hefyd o’r farn bod y Pwyllgor wedi mynd â'r mater hwn mor bell ag oedd yn bosibl, felly gwnaethant ddiolch i'r deisebwyr am godi'r mater a chau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 16/09/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1453 Darparu cyllid a chymorth ar gyfer darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus hygyrch a glân.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Tref Pencoed i ofyn am eu strategaeth leol i gadw toiledau mewn adeiladau cyhoeddus ar agor, gyda’r bwriad o dynnu sylw at hyn fel un enghraifft o arfer da.

 

Unwaith y ceir ymateb gan Gyngor Tref Pencoed, cytunodd yr Aelodau i’w rannu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a thynnu sylw at y materion penodol a godwyd gan y deisebwyr, gan gynnwys y ddarpariaeth dameidiog ledled Cymru, a phwysigrwydd rhannu arfer gorau.