Cyfarfodydd

P-06-1441 Oak tree at the Gate of the Dead, should be given statutory protection by Cadw, as an ancient tree

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/09/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1441 Dylai Cadw roi gwarchodaeth statudol i Dderwen Adwy’r Meirwon fel coeden hynafol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r ohebiaeth a nododd yr amddiffyniadau sydd eisoes ar waith ar gyfer coed o'r fath o dan y system gynllunio. Yng ngoleuni hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am dynnu sylw at bwysigrwydd coed hynafol.  Byddai’r Pwyllgor yn ysgrifennu’n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, gan nodi bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ystyried ei dull o gryfhau ymhellach yr amddiffyniadau ar gyfer coetiroedd hynafol fel rhan o’r Rhaglen Lywodraethu, ac yn gofyn am gael ei ddiweddaru am unrhyw newidiadau o ran cryfhau amddiffyniadau ar gyfer coed o'r fath yn y dyfodol.