Cyfarfodydd
Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/03/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5.2)
Llythyr gan Gadeirydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ynghylch Taliadau o ran rhannu swydd cadeirydd pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cyfarfod: 18/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft ar y Rheolau
Sefydlog, a chytunwyd arno yn amodol ar newidiadau y gwnaed cais amdanynt.
Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor: Cytuno ar y cynnig terfynol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor
Cofnodion:
Dywedodd Paul
Davies, er nad oedd grŵp
y Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno â'r model arfaethedig o rannu swyddi cadeirydd pwyllgor, gan fod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ffafrio model
Cadeirydd ac Is-gadeirydd, maent yn cydnabod bod y mwyafrif o blaid y cynigion
ac felly byddent yn gweithio’n adeiladol i’w datblygu.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y cynigion ar gyfer treial rhannu swyddi cadeirydd pwyllgorau,
ac y dylai'r Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn gweithredu’r treial gyfyngu’r
treial i uchafswm o dri phwyllgor.
Cyfarfod: 14/01/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor: Crynodeb o dystiolaeth cyfnod 2 a chytuno ar y camau nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
- Cyfyngedig 13
- Cyfyngedig 14
- Cyfyngedig 15
- Cyfyngedig 16
- Cyfyngedig 17
- Cyfyngedig 18
- Cyfyngedig 19
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adborth a gafwyd i ddau ymgynghoriad.
Cyflwynodd y Llywydd yr eitem a'r dystiolaeth a ddaeth i law, gan gynnwys nifer
o gwestiynau a phryderon ymarferol a godwyd mewn tystiolaeth a chan aelodau o
Fforwm y Cadeiryddion yn ystod eu trafodaethau ar y cynnig.
Dywedodd y Trefnydd a Heledd Fychan fod eu grwpiau hwy ill dwy yn cefnogi
cyflwyno darpariaethau sy'n galluogi rhannu swydd cadeirydd pwyllgor. Dywedodd
Paul Davies fod ei grŵp yn gwrthwynebu cyflwyno rhannu swydd cadeirydd
pwyllgor ac y byddai'n cefnogi gwaith o ddatblygu model Cadeirydd a Dirprwy
Gadeirydd yn lle hynny.
Ar ôl ystyried safbwyntiau a gafwyd o ran terminoleg, cytunodd mwyafrif y
Rheolwyr Busnes y dylid parhau i ddefnyddio'r term 'rhannu swydd' i
ddisgrifio'r cynnig.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar
faterion a godwyd gan y Comisiynydd Safonau yn ei gyflwyniad. Gofynnodd y
Pwyllgor hefyd i gyngor pellach gael ei ddarparu ar opsiynau ar gyfer telerau a
hyd cynllun treialu arfaethedig, gan gynnwys a ddylid cyfyngu ar nifer y
pwyllgorau y gallai swydd cadeirydd gael ei rhannu yn ystod y cyfnod treialu.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried y materion hyn ymhellach mewn
cyfarfod yn y dyfodol a thrafod gyda'u grwpiau, cyn datblygu cynnig terfynol.
Cyfarfod: 25/10/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan y Pwyllgor Busnes, dyddiedig 22 Hydref, yn gwahodd ymgynghoriad ar rannu swydd cadeirydd pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
lythyr gan y Pwyllgor Busnes, dyddiedig 22 Hydref, yn gwahodd gwybodaeth am
unrhyw oblygiadau i adnoddau’n ymwneud â chynigion ar gyfer rhannu swydd
cadeirydd pwyllgor, a chytunwyd i dderbyn ymateb drafft y tu allan i'r
cyfarfod.
Cyfarfod: 08/10/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Rhannu swydd Cadeirydd Pwyllgor: crynodeb o dystiolaeth cam 1 a datblygu cynigion manwl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus
cam 1 a chytunodd i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad cam 2 gydag Aelodau o'r Senedd
a chyrff eraill.
Wrth wneud hynny,
cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:
- yr
egwyddorion sylfaenol y bydd cynnig manwl y Pwyllgor Busnes ar gyfer
ymgynghori arnynt yn seiliedig;
- nifer o
faterion pellach y dylid gofyn am farn arnynt drwy’r ymgynghoriad cam 2,
gan gynnwys:
- a ddylid
defnyddio'r term 'rhannu rôl' yn hytrach na 'rhannu swydd' yng ngoleuni'r
materion a godwyd yn yr ymgynghoriad cam 1;
- effaith
bosibl rhannu swydd cadeirydd pwyllgor ar gapasiti’r Senedd i graffu;
- effaith
bosibl y ddau Aelod sy'n cymryd rhan ym musnes pwyllgorau ar yr un pryd
ar gydbwysedd gwleidyddol y pwyllgor hwnnw; ac
- a ddylid
hefyd ystyried model cadeirydd / dirprwy gadeirydd fel dull amgen posibl.
- ystyried
rhestr o gwestiynau wedi’u diweddaru ar gyfer yr ymgynghoriad, drwy e-bost
cyn bwrw ymlaen.
Cyfarfod: 02/07/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor: ymagwedd at waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried ei ddull o weithio o ran
cadeiryddion pwyllgor yn rhannu swydd, a chytunwyd ar gylch gorchwyl ac
amserlen fesul cam ar gyfer y gwaith.
Byddai'r amserlen honno'n cynnwys ymarfer casglu
tystiolaeth cyfyngedig wedi'i dargedu gyda Fforwm y Cadeiryddion a
rhanddeiliaid allanol perthnasol, ar egwyddorion ac ymarferoldeb cadeiryddion
pwyllgorau yn rhannu swydd, fel cam cyntaf y gwaith. Byddai’r ail gam yn
cynnwys ymgynghori ag Aelodau, grwpiau gwleidyddol, y Bwrdd Taliadau
Annibynnol, Comisiwn y Senedd a Fforwm y Cadeiryddion ar gynigion penodol yn
nhymor yr hydref.
Cyfarfod: 18/06/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Ystyried rhannu swydd cadeirydd pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 31
Cofnodion:
Dychwelodd y Pwyllgor Busnes i roi
ystyriaeth bellach i'r dull a ffefrir ganddo o weithio ar rannu swyddi a
chytunodd i fwrw ymlaen â darn o waith wedi'i dargedu ar rannu swyddi ar gyfer
cadeiryddion pwyllgorau yn y lle cyntaf.
Cyfarfod: 11/06/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Ystyried rhannu swydd cadeirydd pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 34
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur
yn ei wahodd i gadarnhau y dull a ffefrir ganddo o ran rhannu swyddi
cadeiryddion pwyllgorau a chytunodd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod
dilynol i alluogi Rheolwyr Busnes i drafod yr opsiynau gyda'u grwpiau.
Cyfarfod: 30/04/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 37
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur
ar rannu swyddi cadeiryddion pwyllgorau a chytunodd:
- bod
papur yn cael ei baratoi a'i ddychwelyd i'r Pwyllgor Busnes cyn toriad y
Sulgwyn ar y materion ymarferol a gweithdrefnol sy'n ymwneud â rhannu
swydd cadeirydd pwyllgor, i gynnwys rhestr arfaethedig o gwestiynau a fydd
yn sail i gasglu tystiolaeth fewnol ac allanol;
- i
ymgynghori ag Aelodau o'r Senedd yn uniongyrchol a thrwy Reolwyr Busnes, a
chyda Fforwm y Cadeiryddion;
- cyhoeddi
galwad agored am dystiolaeth ysgrifenedig a'i hyrwyddo i randdeiliaid
perthnasol; a
- rhoi
ystyriaeth bellach i amserlennu tystiolaeth lafar yng ngoleuni unrhyw
dystiolaeth ysgrifenedig a dderbyniwyd.
Holodd Heledd Fychan a ellid
ystyried y potensial i alluogi rhannu swyddi mewn rolau anstatudol eraill hefyd
drwy'r broses hon. Dywedodd y Trefnydd y byddai angen i'r Pwyllgor Busnes fod
yn glir wrth esbonio cwmpas y gwaith hwn, a'r rhesymau drosto, yn enwedig gyda
chynulleidfaoedd allanol.
Gofynnodd Darren Millar i
ystyriaeth gael ei rhoi i weld a ddylai'r gwaith hwn gael ei ddatblygu gan y
Pwyllgor Busnes neu'r Pwyllgor Biliau Diwygio, o ystyried yr arbenigedd y mae
wedi'i ddatblygu mewn meysydd cysylltiedig. Nododd hefyd y goblygiadau posibl i
aelodau meinciau cefn ar gapasiti craffu os cyflwynir deiliaid swyddi
ychwanegol drwy rannu swydd.
Cytunodd y Llywydd y bydd y
Pwyllgor yn dychwelyd at y materion hyn wrth ystyried y papur nesaf ar y pwnc
hwn.
Cyfarfod: 27/02/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor: Cynigion Manwl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 40
Cofnodion:
Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at
ystyried a ddylai fwrw ymlaen â thrafod Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor cyn
toriad y Pasg, a swyddi gwag posibl cadeiryddion pwyllgorau a allai godi yn
sgil y Prif Weinidog newydd yn penodi ei lywodraeth. Cytunodd mwyafrif ar y
Pwyllgor Busnes bod angen cyfnod hwy o amser i roi ystyriaeth lawn i'r materion
perthnasol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i fwrw
ymlaen â'r drafodaeth fanwl honno dros y misoedd nesaf, gan gydnabod na fyddai
unrhyw newidiadau ar waith erbyn i unrhyw swydd wag godi yn dilyn toriad y
Pasg.
Cyfarfod: 20/02/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 43
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur ar Rannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor a chytunodd i gynnal
trafodaeth bellach yn y cyfarfod nesaf, yn dilyn trafodaethau gyda grwpiau
pleidiau.