Cyfarfodydd
Senedd Commission Budget 2025-26
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/12/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Llythyr yr Pwyllgor Cyllid ynghylch Adolygiad o Weithdrefnau Cyllideb Atodol a Phrotocol Proses y Gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Pwyllgor Cyllid yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r
Gymraeg ar adolygiad o weithdrefnau cyllideb atodol a phrotocol proses y
gyllideb.
Cyfarfod: 15/12/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb Atodol 2025-26
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa
ariannol 2025-26. Argymhellwyd Cyllideb Atodol sy'n lleihau'r gyllideb
gyffredinol £1.042 miliwn a'r gofyniad arian parod net £0.542 miliwn, yn
ogystal ag ailddyrannu £4.182 miliwn o wariant o refeniw i gyfalaf.
Cytunodd y Comisiynwyr i gyflwyno Cyllideb Atodol i'w
chynnwys yng nghynnig cyllidebol Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2026. Fe
wnaethant nodi a chymeradwyo'r
Memorandwm Esboniadol, a
- bod yr ail Gyllideb Atodol yn lleihau'r gyllideb a glustnodwyd ar gyfer
Penderfyniad y Bwrdd Taliadau £0.460 miliwn, yn ychwanegol at y gostyngiad yn y
cyllid Yswiriant Gwladol;
- bod yr ail Gyllideb Atodol yn lleihau’r gyllideb Gwariant a Reolir yn
Flynyddol ar gyfer prisio cynllun Pensiwn yr Aelodau £0.500 miliwn, o £1.000
miliwn i £0.500 miliwn; a
-
bod £4.182 miliwn
o gyllideb 'refeniw' yn cael ei ailddosbarthu fel 'cyfalaf' i adlewyrchu
disgwyliadau gwariant yn fwy cywir (gan nodi bod gwaith y Senedd yn amodol ar
gymeradwyaeth ar wahân).
Cadarnhaodd y Comisiynwyr eu
bod yn fodlon ar yr addasiad cyfalaf / refeniw i adlewyrchu canlyniad y
drafodaeth ar yr ad-daliad ardrethi (tybiodd y byddai £644k yn cael ei gadw i
gyflymu gwaith yn y Senedd); a nododd y llythyr drafft at Gadeirydd y Pwyllgor
Cyllid. Fe wnaethant ddirprwyo'r cytundeb terfynol ar lythyr esboniadol
ychwanegol ac addasiadau i Femorandwm Esboniadol y gyllideb i'r Llywydd, i
adlewyrchu'r penderfyniad ynghylch yr ad-daliad.
Byddai’r Gyllideb
Atodol ddrafft a’r llythyr yn cael eu darparu i’r Pwyllgor Cyllid ac wedi hynny
byddai’r Memorandwm Esboniadol yn cael ei osod, a chaiff ffigurau diwygiedig y
gyllideb eu cynnwys yng nghyllideb atodol Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2025.
Cyfarfod: 03/12/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Apêl gwerth ardrethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Hysbyswyd y Comisiynwyr fod y Comisiwn wedi cael
gwybod yn ddiweddar y bu apêl a gynhaliwyd gan Avison Young i gywiro gwerth
ardrethol ystad Bae Caerdydd, wedi'i ôl-ddyddio i 2017, yn llwyddiannus a bod
ad-daliad o £3.6m yn ddyledus.
Fe wnaethant drafod yr
opsiynau a’r cyngor mewn perthynas a’r ad-daliad, gan gytuno i gefnogi cadw
£644k o gyfanswm yr ad-daliad sy'n ddyledus (£3.603 miliwn) i gwblhau gwaith
penodol sy’n flaenoriaeth yn adeilad y Senedd cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Cyfarfod: 14/07/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Llythyr at y Pwyllgor Cyllid - diweddariad ynghylch Argymhellion
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
- Cyfyngedig 14
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
Cytunodd y Comisiynwyr ar lythyr at y
Pwyllgor Cyllid yn rhoi rhagor o wybodaeth mewn perthynas ag argymhellion y
Pwyllgor a wnaed yn ei Adroddiad ar Waith Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2025-26. Rhagwelir y bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi’r llythyr hwn.
Cyfarfod: 28/04/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y Gyllideb Atodol Gyntaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
- Cyfyngedig 19
Cofnodion:
Cyflwynwyd y Memorandwm Esboniadol i’r Cais Cyllideb
Atodol 2025-26 i’r Comisiynwyr. Mae’n gofyn am gynnydd yn y gyllideb fel
canlyniad uniongyrchol i'r newid i gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Cyflogwyr o 13.8% i 15%.
Nododd y
Comisiwn fod y Cyrff eraill a Ariennir yn Uniongyrchol hefyd yn gwneud
ceisiadau am gost lawn y newid.
Trafododd a
chymeradwyodd y Comisiynwyr y cais a ganlyn:
·
i gynyddu cyfanswm y gyllideb o £0.773 miliwn i £84.618
miliwn; ac
·
i gynyddu’r gofyniad arian parod i’w ddyroddi gan Gronfa
Gyfunol Cymru gan £0.773 miliwn i £80.348 miliwn.
a nodwyd:
·
bod y cynnydd yng nghyfanswm y gyllideb wedi’i rannu ar
draws y llinellau cyllidebol unigol y mae’r Comisiwn yn gyfrifol amdanynt. Gan
mai newidiadau yng nghostau staff yw’r newidiadau, maent yn effeithio ar yr
holl linellau cyllidebol sy’n cynnwys costau staff.
Caiff y Memorandwm
Esboniadol ei gyhoeddi fel rhan o broses y Gyllideb Atodol.
Cyfarfod: 24/03/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Ymgysylltiad y Gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
Strategaeth Ymgysylltu ar gyfer Cyllideb Flynyddol y Comisiwn, i sicrhau y ceir
ymgysylltiad a llais yr Aelodau yn y broses o ddatblygu’r Gyllideb.
Cyfarfod: 24/03/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Llythyr at y Pwyllgor Cyllid, y wybodaeth ddiweddaraf am yr argymhellion
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
- Cyfyngedig 26
Cofnodion:
Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid ei Adroddiad Craffu ar y
Gyllideb Ddrafft 2025-26 ym mis Hydref 2024, gan wneud 17 o argymhellion i'r
Comisiwn, ac mae’r Comisiwn wedi darparu ymateb cychwynnol i’r rhain.
Bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu i ymdrin â
nifer o argymhellion y Pwyllgor.
Cytunodd y Comisiynwyr ar y llythyr drafft a'r atodiadau.
Bydd y llythyr a’r
atodiadau’n cael eu darparu i’r Pwyllgor Cyllid a fydd yn eu cyhoeddi fel rhan
o bapurau cyfarfod y Pwyllgor, ar wahân i’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu
(Atodiad 3), a fydd yn parhau i fod yn gyfyngedig.
Cyfarfod: 20/11/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 20/11/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26
NDM8729 Hefin David
(Caerffili)
Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb
Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, fel y’i nodir yn Nhabl 1 o Gyllideb
Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, a osodwyd
gerbron y Senedd ar 13 Tachwedd 2024, a’i bod yn cael ei hymgorffori yng
Nghynnig y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Dogfennau ategol
Adroddiad gan y Pwyllgor Cyllid – Craffu ar Gyllideb Ddrafft
Comisiwn y Senedd 2025-26
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.09
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8729 Hefin David
(Caerffili)
Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn
cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, fel y’i nodir yn Nhabl 1
o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, a osodwyd gerbron
y Senedd ar 13 Tachwedd 2024, a’i bod yn cael ei hymgorffori yng Nghynnig
y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
31 |
0 |
13 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 25/10/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb 2025-26 Comisiwn y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 31
- Cyfyngedig 32
- Cyfyngedig 33
Cofnodion:
Rhoddodd y Comisiynydd sydd â phortffolio’r gyllideb a
llywodraethiant ddiweddariad ar gynnydd Cyllideb 2025-26 Comisiwn y Senedd yn
dilyn gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref.
Cynigiodd y Comisiynydd ymatebion i bob un o argymhellion
y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 22 Hydref. Cytunodd y Comisiynwyr ar gynnwys eu
hymateb i'r adroddiad.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr hefyd Gyllideb Derfynol
Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, heb y cyllid ychwanegol o £0.456m y
gofynnwyd amdano drwy Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer
2024-25, a gytunwyd gan y Senedd yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 22 Hydref.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddai gwaith meincnodi pellach,
manylach o ran strwythurau gyda chyrff cymheiriaid yn cael eu cynnal maes o
law, ar adeg pan na fyddai'n dargyfeirio adnoddau oddi wrth waith Diwygio'r
Senedd neu baratoadau etholiadol a phan fyddai 'cyflwr sefydlog' ar y sefydliad
staffio wedi'i chyflawni mewn perthynas â chefnogi Senedd fwy.
Tynnodd un Comisiynydd sylw at safbwynt barhaus eu
grŵp o wrthwynebu Diwygio'r Senedd a'r costau cysylltiedig.
Byddai dogfen y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2025-26 yn
cael ei gosod ar 13 Tachwedd 2024 gyda’r Cynnig Cyllidebol i gael ei drafod yn
y Cyfarfod Llawn ar 20 Tachwedd 2024.
Cyfarfod: 23/09/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diweddariad ar drafodaethau cyflog
Ar lafar
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa gyfredol y trafodaethau cyflog sy’n mynd
rhagddynt, a’r cyd-destun o ran cyllideb y Comisiwn, yn dilyn y llythyr a
anfonwyd at Ochr yr Undebau Llafur ar 9 Medi a’r ymateb a gafwyd ar 18 Medi.
Roeddent yn rhagweld symud ymlaen o ran y dyfarniad cyflog.
Cyfarfod: 23/09/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2025-26
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
- Cyfyngedig 39
- Cyfyngedig 40
- Cyfyngedig 41
- Cyfyngedig 42
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr y gwaith diweddaraf ar y Gyllideb ddrafft ar gyfer
2025-26, a oedd yn cynnwys newidiadau ers y cyfarfod blaenorol.
Trafodwyd y ffaith y byddai’r
Gyllideb ddrafft yn cwmpasu’r flwyddyn gyntaf o gynnydd sylweddol a pharhaol i
gyllideb y Comisiwn o ganlyniad i Ddiwygio’r Senedd, wrth i’r sefydliad gynyddu
nifer y staff a chwblhau addasiadau strwythurol i’r ystad i greu lle ar gyfer
mwy o Aelodau a staff cymorth yn barod ar gyfer 2026-27. Trafodwyd natur
hanesyddol y newid.
Er eu bod wedi’u neilltuo ar hyn o bryd, byddai costau Diwygio’r Senedd yn
symud i ‘fusnes fel arfer’, fel y nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar
gyfer y dyfodol pan gafodd ei gyhoeddi yn 2023.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26 i’w gosod
a’r llythyr at y Pwyllgor Cyllid. Nodwyd datganiad o egwyddorion y Pwyllgor
Cyllid hefyd, a drafodwyd yn y llythyr a anfonwyd at y Pwyllgor, a’r llythyr
oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Wrth gytuno ar y Gyllideb Ddrafft, nododd y Comisiynwyr yn dilyn dwy
flynedd o ostyngiadau ac arbedion o ran y gyllideb o ganlyniad i daliadau
costau byw, a chan nodi’r adborth a gafwyd gan Aelodau ynghylch rhoi’r gorau
dros dro i deithio rhyngwladol, cymorth hyfforddi a phryder am lesiant staff,
nid oedd modd nodi arbedion pellach heb wneud toriadau parhaol i’r gwasanaethau
a ddarperir i Aelodau, oherwydd lefel y
gwaith o gyflwyno rhaglenni a chyflawni newidiadau erbyn 2025-26.
Mae egwyddorion y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig yn golygu bod gan y
Comisiwn brosesau ar waith sy'n sicrhau y byddai'r sefydliad yn ystyried
arbedion a ffyrdd o wella effeithlonrwydd yn barhaus wrth iddo wneud
penderfyniadau gweithredol.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr y cynnydd o 20.96% yn y gyllideb weithredol
rhwng 2024-25 a 2025-26 (11.08% ac eithrio rhaglen Ddiwygio’r Senedd, y rhaglen
Ffyrdd o Weithio, a chyllidebau nad ydynt yn arian parod), a’r cynnydd o 16.77%
yn y gyllideb gyffredinol rhwng 2024-25 a 2025-26. Gan ystyried y costau
ychwanegol hysbys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a ddisgwylir yn 2025-26,
y cynnydd cyffredinol i’r gyllideb yw 11.56% (addasiad 10.80% i’r Asesiad
Effaith Rheoleiddiol ar gyfer dyfarniadau cyflog a chwyddiant).
Bu’r Comisiynwyr hefyd
yn trafod y broses o ymgysylltu â’r Aelodau, ac roeddent am ehangu ar hynny yn
y blynyddoedd i ddod wrth i’r Comisiwn bennu cyllidebau i ddarparu’r eiddo, y
staff a’r gwasanaethau sydd eu hangen at ddibenion y Senedd. Nodwyd y gellid ymgysylltu’n fwy â’r Aelodau fel rhan o’r
broses flynyddol, dan gyfarwyddyd y Comisiwn, ar ôl diweddaru’r Fframwaith
Adnoddau Tymor Canolig bob gwanwyn.
Cyfarfod: 15/07/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diweddariad ar drafodaethau cyflog
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 45
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y cynnydd a wnaed o ran y trafodaethau
ffurfiol rhwng Ochr Rheoli'r Comisiwn (CMS) ac Ochr Undebau Llafur y Comisiwn
(TUS) ynghylch y fframwaith cyflogau ar gyfer staff y Comisiwn o fis Ebrill
2025 ymlaen.
Ymatebodd TUS i’r cynnig cyflog ffurfiol ar 26 Mehefin yn
gofyn i’r Comisiwn gynyddu ei gynnig.
Trafododd y Comisiynwyr opsiynau ar gyfer sicrhau y
byddai’r adnoddau angenrheidiol ar gyfer yr opsiwn a ffafrir yn cael eu cynnwys
yn y gyllideb ddrafft derfynol ar gyfer 2025/26, y bydd yn rhaid i’r Comisiwn
gytuno arni ym mis Medi 2024. Byddai’r gyllideb angenrheidiol ar gyfer cytundeb
cyflog cytunedig yn rhan o gyllideb flynyddol y Comisiwn, a byddai’n destun
gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyllid.
Trafodwyd yr opsiynau pellach a gyflwynwyd a chytunwyd ar
yr opsiwn 3 a argymhellir - 3.5% yn y flwyddyn gyntaf, 3.25% yn yr ail flwyddyn
a 3% yn y drydedd flwyddyn. Mae hyn yn ymateb i gais TUS i gynyddu cynnig y
Comisiwn, ond mae’n ddarbodus o safbwynt cyllidebu. Mae'r graddfeydd yn
cydnabod ac yn adlewyrchu'r gostyngiad a ragwelir mewn chwyddiant, gan ddarparu
setliad cyflog a sicrwydd i'r Comisiwn am dair blynedd.
Cyfarfod: 15/07/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2025-26
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 48
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr amlinelliad lefel uchel i’r
Comisiynwyr o gyllideb ddrafft gynnar 2025-26, yn seiliedig ar y tybiaethau
cynllunio cyllideb y cytunodd y Comisiwn arnynt yn y cyfarfod ar 29 Ebrill.
Roedd yr amlinelliad yn cynnwys arwydd cynnar o ofynion
cyllidebol, ac roedd yn nodi materion sy'n dod i'r amlwg ynghyd ag arwydd clir
o waith pellach sydd ei angen.
Mae materion allweddol sy'n dod i'r amlwg yn cynnwys
lefel bosibl y twf ar draws y gyllideb, gan gynnwys ‘busnes fel arfer’; y bwlch
yng nghyllid y prosiect a'r rhestr sy'n dod i'r amlwg o waith adnewyddu cynnal
a chadw cylch bywyd sydd ei angen ar gyfer 2025-26 sy'n dal i gael ei ystyried
ynghyd ag amseriad y gyllideb atodol.
Roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn adlewyrchu’r ansicrwydd
a grëwyd gan yr oedi i Gynnig Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer
2024-25, sy’n golygu ei bod yn debygol na fyddai canlyniad y broses yn hysbys
ar yr adeg pan fyddai’n ofynnol i’r Comisiwn osod ei gyllideb ddrafft.
Rhagwelwyd mai canlyniadau hyn yw’r posibilrwydd y byddai angen i'r Comisiwn
ystyried cyflwyno cyllideb a fyddai’n ystyriol o’r ansicrwydd hwn, a’r
tebygrwydd na fyddai'n gallu cwblhau trafodaethau cyflog tan ddiwedd yr hydref.
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad ar baratoi cyllideb 2025-26 a chytunwyd
eu bod yn fodlon i fanylion y gyllideb gael eu datblygu fel y’u hamlinellwyd
dros yr haf.
Bydd y gyllideb
ddrafft y cytunwyd arni yn cael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog.
Cyfarfod: 15/07/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Cyllideb y Comisiwn
Cyfarfod: 29/04/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Cyllideb Ddrafft (2025-26) – Ystyriaethau o ran strategaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
Cofnodion:
Rhoddwyd amlinelliad
i’r Comisiynwyr o nifer o faterion i’w trafod a fyddai’n helpu i lywio’r gwaith
o ddatblygu cyllideb 2025-26 i adlewyrchu blaenoriaethau’r Comisiwn ar gyfer
blwyddyn olaf y Chweched Senedd.
Trafododd y
Comisiynwyr yr eitemau sy'n debygol o effeithio ar ei gyllid yn ystod 2024-25
cyn ystyried y dull gweithredu y mae'n dymuno ei ddilyn i ymdrin â'r effaith
hon, yn benodol yng nghyllideb ddrafft 2025-26.
Cytunodd y Comisiynwyr
y dylai cynigion y gyllideb gael eu datblygu ymhellach a’u cyflwyno yng
nghyllideb ddrafft 2025-26 fel y’i cynigir, yn enwedig, mewn perthynas â’r
materion a ganlyn:
• cyllidebau ar gyfer y gwaith
ar ddiwygio’r Senedd yn cael eu hadolygu i adlewyrchu’r sefyllfa ddiweddaraf;
• rhagamcanion cyllidebol
manwl ar gyfer y rhaglen Ffyrdd o Weithio;
• effeithiau Strategaeth
Cyflogau'r Comisiwn ar y gyllideb;
• ystyriaethau eraill nad
ydynt yn gysylltiedig â chyflogau, gan gynnwys costau prosiect a diffyg parhaus
cyllideb wrth gefn;
• cyflawni gofynion statudol a
chynllun corfforaethol y Comisiwn, gan gydnabod bod angen ystyried yr
uchelgeisiau hynny yng nghyd-destun cyllidebol ehangach y sector cyhoeddus; ac
• effaith adolygiadau’r Bwrdd Taliadau
Annibynnol ar ffurf y paratoadau ar gyfer darparu gwasanaethau yn ystod y
Seithfed Senedd.
Cadarnhaodd y
Comisiynwyr eu bod yn fodlon â'r dull gweithredu ar gyfer cam nesaf y gwaith o
lunio'r gyllideb.
Nododd y Comisiynwyr
hefyd y byddai unrhyw effaith gyllidebol o ran amcangyfrif costau ynni yn y
dyfodol yn cael eu nodi yng Nghyllideb Ddrafft 2025-26. Bydd y gyllideb ddrafft
hon hefyd yn nodi effaith adolygu cyllidebau ar gyfer ystadau, TGCh a chronfeydd
prosiect, yn ogystal â’r adolygiad blynyddol o gostau’r Penderfyniad.