Cyfarfodydd
NDM8618 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffordd osgoi Cas-gwent
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/06/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 19/06/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 19/06/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffordd osgoi Cas-gwent
NDM8618 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod
manteision ffyrdd osgoi o ran cefnogi economïau lleol a lleihau tagfeydd.
2. Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid i Gyngor Sir Fynwy ddatblygu cynlluniau ar
gyfer ffordd osgoi Cas-gwent.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Swydd
Gaerloyw i ddarparu ffordd osgoi Cas-gwent.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y
problemau o ran tagfeydd yng Nghas-gwent.
2. Yn cydabod yr angen
am rwydwaith trafnidiaeth integredig, deniadol a chynaliadwy sy’n cefnogi twf
yn yr ardal.
3. Yn cefnogi dull
Llywodraeth Cymru o weithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Sir
Fynwy a Chyngor Swydd Gaerloyw i ystyried opsiynau ar gyfer gwella’r rhwydwaith
ffyrdd, darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus a darpariaeth teithio llesol i wella
teithio yng Nghas-gwent.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a
rhoi yn eu lle:
Yn credu y dylid
ymgymryd â datblygiadau seilwaith mewn ymgynghoriad llawn â chymunedau ac
yn unol ag anghenion cymunedau a nodwyd.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio i ddarparu seilwaith newydd i leddfu tagfeydd yn unol â'r
egwyddorion hyn, gan gynnwys darparu trydydd bont y Fenai, a ffyrdd osgoi yn
Llandeilo a Chas-gwent.
Yn
galw ar Lywodraeth nesaf y DU i sicrhau setliad ariannu teg ar gyfer Cymru, a'r
£4 biliwn mewn symiau canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru o HS2, i ddarparu'r
cyllid sydd ei angen i wella'r seilwaith trafnidiaeth a'r seilwaith ffyrdd yng
Nghymru er mwyn lleddfu tagfeydd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8618 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod manteision
ffyrdd osgoi o ran cefnogi economïau lleol a lleihau tagfeydd.
2. Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid i Gyngor Sir Fynwy ddatblygu cynlluniau ar
gyfer ffordd osgoi Cas-gwent.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Swydd Gaerloyw i
ddarparu ffordd osgoi Cas-gwent.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
31 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y problemau o ran tagfeydd yng
Nghas-gwent.
2. Yn cydabod yr angen am rwydwaith trafnidiaeth
integredig, deniadol a chynaliadwy sy’n cefnogi twf yn yr ardal.
3. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o weithio mewn
partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Swydd Gaerloyw i
ystyried opsiynau ar gyfer gwella’r rhwydwaith ffyrdd, darpariaeth trafnidiaeth
gyhoeddus a darpariaeth teithio llesol i wella teithio yng Nghas-gwent.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
23 |
45 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn credu y dylid ymgymryd â datblygiadau seilwaith
mewn ymgynghoriad llawn â chymunedau ac yn unol ag anghenion cymunedau a
nodwyd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio i ddarparu
seilwaith newydd i leddfu tagfeydd yn unol â'r egwyddorion hyn, gan gynnwys
darparu trydydd bont y Fenai, a ffyrdd osgoi yn Llandeilo a Chas-gwent.
Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i sicrhau setliad
ariannu teg ar gyfer Cymru, a'r £4 biliwn mewn symiau canlyniadol sy'n ddyledus
i Gymru o HS2, i ddarparu'r cyllid sydd ei angen i wella'r seilwaith
trafnidiaeth a'r seilwaith ffyrdd yng Nghymru er mwyn lleddfu tagfeydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
35 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod
y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.