Cyfarfodydd
Busnes yr wythnos hon
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/05/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon (wedi'i diweddaru)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Dydd Mawrth
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.30pm
Gofynnodd Darren Millar pam roedd y
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn
Ysgol wedi cael ei ohirio o 21 Mai i 4 Mehefin. Cadarnhaodd y Trenfydd fod
angen i'r Llywodraeth gymryd rhagor o amser i ystyried y mater yn dilyn diwedd
y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Ar ôl i gadeirydd y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ymddisywddo wedi iddi gael ei phenodi
i rôl weinidogol, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cadeiryddiaeth y pwyllgor
hwnnw barhau i gael ei ddyrannu i’r grŵp Llafur.
Gofynnodd Darren Millar i nodyn
gael ei ddosbarthu ynghylch y dyraniad presennol o ran cadeiryddiaeth
pwyllgorau i grwpiau gwleidyddol. Cadarnhaodd Heledd Fychan fod Rhys ab Owen AS
yn parhau i fod wedi ei wahardd o grŵp Plaid Cymru dros dro.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y
byddai'r Llywydd yn gwahodd enwebiadau cyn Cwestiynau'r Prif Weinidog ac y
byddai’r canlyniad, pe bai angen pleidlais gudd, yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd
y cyfarfod llawn heddiw.
Dydd Mercher
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm
Cytundeb
Cydweithio
Ar ôl
derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan Arweinydd Plaid Cymru ei bod wedi tynnu'n ôl
o'r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, cadarnhaodd y Llywydd nad yw’r Canllawiau
ychwanegol ar weithrediad trafodion y Cyfarfod Llawn yn ystod y Cytundeb
Cydweithio bellach yn berthnasol. Yn dilyn ymgynghoriad â Rheolwyr Busnes,
cadarnhaodd y Llywydd hefyd:
- Bydd
llefarwyr Plaid Cymru yn cael eu galw i ofyn tri chwestiwn yn ystod
sesiynau cwestiynau llafar, i ddod i rym ar unwaith, gan ddechrau gyda
chwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol y prynhawn yma.
- Ni
fydd yn ofynnol bellach i Arweinydd Plaid Cymru a chyn-Aelodau Dynodedig
gyfyngu ar y cwestiynau (a gyflwynir ac atodol) yn ystod sesiynau
cwestiynau gweinidogol i faterion etholaethol neu ranbarthol, a gallant
gyfrannu at ddatganiadau llafar gweinidogol yn yr un modd ag Aelodau
eraill.
Mae’r
Pwyllgor Busnes wedi cytuno y bydd cymhareb yr amser ar gyfer cynnal dadl
wrthblaid a ddyrennir i Blaid Cymru yn cyfateb i nifer yr Aelodau yng
ngrŵp Plaid Cymru ac na fydd bellach yn cael ei leihau i gymryd i
ystyriaeth Arweinydd Plaid Cymru a nifer yr Aelodau Dynodedig.