Cyfarfodydd
NDM8571 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Rheoli cynhyrchion tybaco a nicotin
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/05/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/05/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/05/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Rheoli cynhyrchion tybaco a nicotin
NDM8571 Mabon ap
Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod ysmygu yn lladd
5,600 o bobl y flwyddyn yng Nghymru ac yn rhoi baich enfawr ar GIG Cymru o fwy
na £300 miliwn bob blwyddyn;
b) mai ysmygu yw prif
achos afiechydon y gellir eu hatal a marw cyn pryd yng Nghymru, gan achosi
3,100 o achosion o ganser bob blwyddyn;
c) bod cynnydd
amlwg i'w weld yng Nghymru yn nifer y bobl ifanc sy’n fepio, ynghyd â
chynnydd sydyn yn nifer y manwerthwyr sy'n gwerthu cynhyrchion nicotin;
d) y bydd mwy o
ddibyniaeth ar nicotin ymhlith pobl iau yn cynyddu’r galw am wasanaethau
cymorth i roi'r gorau i nicotin yng Nghymru; ac
e) bod Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus
yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda
phobl, cymunedau a'i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau
iechyd a newid yn yr hinsawdd.
2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) ymrwymo i weithredu
penodau 2, 3 a 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn llawn a fyddai'n ei
gwneud yn bosibl:
i) sefydlu cofrestr
genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin;
ii) ychwanegu troseddau
a fyddai’n cyfrannu at orchymyn mangre o dan gyfyngiad yng Nghymru, gan alluogi
swyddogion gorfodi i wahardd manwerthwr rhag gwerthu tybaco neu gynhyrchion
nicotin am hyd at flwyddyn; a
iii) gwahardd rhoi
tybaco a chynhyrchion nicotin i berson o dan 18 oed;
b) sicrhau bod y Bwrdd
Strategol ar gyfer Rheoli Tybaco yn blaenoriaethu gweithredu cofrestr o
fanwerthwyr tybaco a nicotin fel rhan o ail gam y cynllun gweithredu ar reoli
tybaco ar gyfer Cymru 2024-2026;
c) ymrwymo i ymgyrch
gyfathrebu wedi'i hariannu'n llawn i gefnogi'r broses weithredu a newidiadau
dilynol i reoliadau a deddfwriaeth; a
d) sefydlu gweithgor i:
i) goruchwylio'r broses
o weithredu'r gofrestr o fanwerthwyr yn brydlon;
ii) archwilio sut y
gallai'r gofrestr o fanwerthwyr arwain y ffordd at gynllun trwyddedu a/neu
adnoddau ar gyfer mesurau gorfodi ychwanegol; a
iii) cyflwyno'r data a
gasglwyd o'r gofrestr i helpu i dargedu ymdrechion i roi'r gorau i ysmygu
a diogelu'r cyhoedd.
Cyd-gyflwynwyr
John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd)
Altaf Hussain
(Gorllewin De Cymru)
Cefnogwyr
Carolyn Thomas
(Gogledd Cymru)
Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru)
Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Jack Sargeant
(Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd)
Mark Isherwood
(Gogledd Cymru)
Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.31
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8571 Mabon ap Gwynfor
(Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn nodi:
a)
bod ysmygu yn lladd 5,600 o bobl y flwyddyn yng Nghymru ac yn rhoi baich enfawr
ar GIG Cymru o fwy na £300 miliwn bob blwyddyn;
b)
mai ysmygu yw prif achos afiechydon y gellir eu hatal a marw cyn pryd yng
Nghymru, gan achosi 3,100 o achosion o ganser bob blwyddyn;
c)
bod cynnydd amlwg i'w weld yng Nghymru yn nifer y bobl ifanc sy’n fepio,
ynghyd â chynnydd sydyn yn nifer y manwerthwyr sy'n gwerthu cynhyrchion
nicotin;
d)
y bydd mwy o ddibyniaeth ar nicotin ymhlith pobl iau yn cynyddu’r galw am
wasanaethau cymorth i roi'r gorau i nicotin yng Nghymru; ac
e)
bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol
i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau,
gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac atal problemau parhaus fel
tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.
2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
ymrwymo i weithredu penodau 2, 3 a 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn
llawn a fyddai'n ei gwneud yn bosibl:
i)
sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin;
ii)
ychwanegu troseddau a fyddai’n cyfrannu at orchymyn mangre o dan gyfyngiad yng
Nghymru, gan alluogi swyddogion gorfodi i wahardd manwerthwr rhag gwerthu
tybaco neu gynhyrchion nicotin am hyd at flwyddyn; a
iii)
gwahardd rhoi tybaco a chynhyrchion nicotin i berson o dan 18 oed;
b)
sicrhau bod y Bwrdd Strategol ar gyfer Rheoli Tybaco yn blaenoriaethu
gweithredu cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin fel rhan o ail gam y cynllun
gweithredu ar reoli tybaco ar gyfer Cymru 2024-2026;
c)
ymrwymo i ymgyrch gyfathrebu wedi'i hariannu'n llawn i gefnogi'r broses
weithredu a newidiadau dilynol i reoliadau a deddfwriaeth; a
d)
sefydlu gweithgor i:
i)
goruchwylio'r broses o weithredu'r gofrestr o fanwerthwyr yn brydlon;
ii)
archwilio sut y gallai'r gofrestr o fanwerthwyr arwain y ffordd at gynllun
trwyddedu a/neu adnoddau ar gyfer mesurau gorfodi ychwanegol; a
iii)
cyflwyno'r data a gasglwyd o'r gofrestr i helpu i dargedu ymdrechion i roi'r
gorau i ysmygu a diogelu'r cyhoedd.
Cyd-gyflwynwyr
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)
Cefnogwyr
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
20 |
4 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.