Cyfarfodydd
NDM8570 Dadl Plaid Cymru - Adfer tomenni glo a phyllau glo brig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 08/05/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 08/05/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 08/05/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Adfer tomenni glo a phyllau glo brig
NDM8570 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod Cymru’n gartref i
40 y cant o’r holl domenni glo sy’n weddill yn y DU, a hynny o ganlyniad i
ymelwa ar adnoddau naturiol Cymru;
b) bod gan fwy o law a
thywydd eithafol y potensial i ansefydlogi'r tomenni hyn ymhellach; ac
c) y pryder a achosir i
breswylwyr sy'n byw ger tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd
ôl-ddiwydiannol eraill.
2. Yn gresynu bod
Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu cyllid i gefnogi'r gwaith o adfer ac
ail-bwrpasu tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill
yn y tymor hir.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno deddfwriaeth ar frys i sefydlu corff newydd i ddarparu rhaglen
adfer addas i'r diben ar gyfer tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd
ôl-ddiwydiannol eraill.
4. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i ddarparu ar frys yr arian ychwanegol angenrheidiol ar gyfer y gyfundrefn
archwilio a chynnal a chadw, yn ogystal ag ysgwyddo’r cyfrifoldeb ariannol
hirdymor am ddiogelu tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol
eraill drwy waith adfer priodol.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Yn is-bwynt 1 (a), dileu
'ymelwa ar adnoddau naturiol Cymru' a rhoi 'dreftadaeth ddiwydiannol Cymru' yn
ei le.
Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 2, dileu 'yn
gresynu bod Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu' a rhoi 'yn credu y dylai
Llywodraeth y DU barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu' yn ei le.
Gwelliant 3 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn
ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth
Cymru wedi darparu dros £44 miliwn i awdurdodau lleol er mwyn cynnal a gwella
diogelwch tomenni glo ers 2022, wedi cyflwyno system o fonitro’n rheolaidd
domenni categori C a D a bydd yn cyflwyno deddfwriaeth newydd fodern ar gyfer
tomenni nas defnyddir yn yr Hydref.
Gwelliant 4 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 4.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.31
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8570 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod Cymru’n gartref i
40 y cant o’r holl domenni glo sy’n weddill yn y DU, a hynny o ganlyniad i
ymelwa ar adnoddau naturiol Cymru;
b) bod gan fwy o law a thywydd
eithafol y potensial i ansefydlogi'r tomenni hyn ymhellach; ac
c) y pryder a achosir i
breswylwyr sy'n byw ger tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd
ôl-ddiwydiannol eraill.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth y
DU yn gwrthod darparu cyllid i gefnogi'r gwaith o adfer ac ail-bwrpasu tomenni
segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill yn y tymor hir.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno deddfwriaeth ar frys i sefydlu corff newydd i ddarparu rhaglen adfer
addas i'r diben ar gyfer tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd
ôl-ddiwydiannol eraill.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i
ddarparu ar frys yr arian ychwanegol angenrheidiol ar gyfer y gyfundrefn
archwilio a chynnal a chadw, yn ogystal ag ysgwyddo’r cyfrifoldeb ariannol
hirdymor am ddiogelu tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol
eraill drwy waith adfer priodol.
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
45 |
57 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Yn is-bwynt 1 (a), dileu 'ymelwa ar adnoddau naturiol
Cymru' a rhoi 'dreftadaeth ddiwydiannol Cymru' yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
41 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 2, dileu 'yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn
gwrthod darparu' a rhoi 'yn credu y dylai Llywodraeth y DU barhau i weithio
gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu' yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
41 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
27 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
41 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8570 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod Cymru’n gartref i 40 y cant o’r holl domenni
glo sy’n weddill yn y DU, a hynny o ganlyniad i ymelwa ar adnoddau naturiol
Cymru;
b) bod gan fwy o law a thywydd eithafol y potensial i
ansefydlogi'r tomenni hyn ymhellach; ac
c) y pryder a achosir i breswylwyr sy'n byw ger tomenni
segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu
cyllid i gefnogi'r gwaith o adfer ac ail-bwrpasu tomenni segur, pyllau glo brig
a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill yn y tymor hir.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £44
miliwn i awdurdodau lleol er mwyn cynnal a gwella diogelwch tomenni glo ers
2022, wedi cyflwyno system o fonitro’n rheolaidd domenni categori C a D a bydd
yn cyflwyno deddfwriaeth newydd fodern ar gyfer tomenni nas defnyddir yn yr
Hydref.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu ar frys yr arian
ychwanegol angenrheidiol ar gyfer y gyfundrefn archwilio a chynnal a chadw, yn
ogystal ag ysgwyddo’r cyfrifoldeb ariannol hirdymor am ddiogelu tomenni segur,
pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill drwy waith adfer priodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
16 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.