Cyfarfodydd
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 30/04/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddodd y Trefnydd
wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth
7 Mai 2024
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Y
Senedd yn 25 (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Blaenoriaethau ar gyfer newid
hinsawdd a materion gwledig (45 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i
gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar
wahân (30 munud):
o
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 1
o
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 2
Dydd
Mercher 8 Mai 2024
· Dadl: Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru
(Aelodau ac Etholiadau) (30 munud)
Dydd Mawrth
14 Mai 2024
· Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol: cyflawni blaenoriaethau
addysg Cymru (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Dyfodol ffermio yng Nghymru (45
munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd
Meddwl a Blynyddoedd Cynnar: Gwella iechyd meddwl yng Nghymru (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol:
Ein gweledigaeth ar gyfer gofal maeth yng Nghymru (30 munud)