Cyfarfodydd
P-06-1415 Brynglas Tunnels M4 South Wales relief road to be put into action
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/05/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 13/05/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 13/05/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
2 P-06-1415 Rhoi ffordd liniaru’r M4 ger Twneli Bryn-glas yn ne Cymru ar waith.
Dogfennau ategol:
- Briff Ymchwil, Eitem 2
PDF 156 KB
Gweld fel HTML (2/1) 78 KB
- Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, 10 Ebrill 2024, Eitem 2
PDF 106 KB
Cofnodion:
Cynigiodd y
Cadeirydd y dylid ystyried y ddeiseb hon ar y cyd â deiseb P-06-1421 Cynnal
arolwg barn cyhoeddus ar a ddylid adeiladu Ffordd Liniaru’r M4, a gweithredu’r
canlyniad ar unwaith.
Datganodd John
Griffiths AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n ddefnyddiwr
cyson o'r M4.
Datganodd Peter
Fox AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n byw yn y De
Ddwyrain ac o fewn ardal Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwent.
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymateb a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. Lleisiodd
yr Aelodau eu pryderon, nid yn unig y byddai goblygiadau ariannol o redeg
cynllun o'r fath ond hefyd y byddai effaith sylweddol ar yr amgylchedd.
Yng ngoleuni hyn,
cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.