Cyfarfodydd
Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2024-25
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/12/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 12/12/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 12/12/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
2 PTN 3 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 – 2 Rhagfyr 2024
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 22/10/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 10)
- Gweddarllediad ar gyfer 22/10/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 22/10/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25
NDM8681 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn
cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25
a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 1 Hydref 2024.
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth
Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth
ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n
ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan
y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig
yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd
ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu
defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w
talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi
o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o
Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a
ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft,
fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r
Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn
a'r rhai blaenorol.
Dogfennau Ategol
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.39
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio.
NDM8681 Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol
2024-25 a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 1 Hydref 2024.
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf
Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr
wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd
arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y
mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a
ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr
awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau
amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol
a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w
hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu
talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r
wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y
gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol
Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu
i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y
cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
24 |
1 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 16/10/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/10/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/10/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
7 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Trafod yr adroddiad drafft
Dogfennau
ategol:
FIN(6)-21-24 P4 -
Adroddiad drafft (Wedi'i gynnwys yn y pecyn atodol)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/1)
Cofnodion:
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft cyn cytuno
arno, yn amodol ar fân newidiadau.
Cyfarfod: 10/10/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/10/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/10/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
Cyfarfod: 10/10/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/10/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/10/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
4 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Sesiwn dystiolaeth
Mark Drakeford
AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Sharon Bounds, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol, Llywodraeth Cymru
Emma Watkins,
Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth, Llywodraeth
Cymru
Dogfennau
ategol:
Cyllideb Atodol
gyntaf Llywodraeth Cymru 2024-25
Briff Ymchwil y
Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
Cofnodion:
4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2024-25 gan Mark
Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Llywodraeth
Cymru; Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaethau Ariannol, Llywodraeth
Cymru; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Busnes y Llywodraeth a’r Gyllideb,
Llywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 25/09/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/09/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
4 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 – Craffu cyn y Gyllideb: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Mark Drakeford
AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr Trysorlys, Llywodraeth Cymru
Emma Watkins, Dirprwy
Gyfarwyddwr yr Is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru
Dogfennau
ategol:
Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 19 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
Cofnodion:
4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth mewn perthynas â chraffu cyn y gyllideb gan Mark Drakeford
AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru; Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru; ac Emma Watkins, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Busnes y Gyllideb a'r Llywodraeth, Llywodraeth Cymru.
4.2 Cytunodd yr
Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu'r canlynol:
·
Diweddariad ar gyfarfodydd y
dyfodol o fewn haen uchaf y Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol (F:ISC).
·
Rhagor o wybodaeth am unrhyw waith
modelu neu astudiaethau sy’n ymwneud ag effaith bosibl codi treth incwm a/neu
gynyddu nifer y bandiau treth incwm, ar symudiadau trawsffiniol unigolion a swm
y refeniw treth incwm a dderbynnir. Yn benodol, unrhyw ddiweddariad ar y gwaith
sy’n cael ei wneud gyda Llywodraeth yr Alban a CThEF mewn perthynas ag ymchwil
hydredol a wneir gan CThEF ar ymddygiad trethdalwyr, yn dilyn gweithredu
cyfraddau treth gwahanol yn yr Alban.
4.3 Cytunodd
y Pwyllgor i ysgrifennu at y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch cyhoeddi Data
Twf Chwarterol penodol i Gymru.
Cyfarfod: 25/09/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/09/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
3 PTN 1 – Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2024-25 – 18 Medi 2024
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 18/09/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 18/09/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 18/09/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
2 PTN 3 - Llythyr gan Hefin David AS, Comisiynydd y Senedd: Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 - 19 Gorffennaf 2024
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 26/06/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 26/06/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 26/06/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
2 PTN 7 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet: gohirio cyhoeddi cyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru 2024-25 - 10 Mehefin 2024
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 18/06/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2024-25
Cyfarfod: 22/05/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 22/05/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 22/05/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25: Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd
i ofyn am ragor o wybodaeth am ei gyllideb atodol.
Cyfarfod: 22/05/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 22/05/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 22/05/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
3 Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25: Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn y Senedd
Hefin David MS,
Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu
Manon Antoniazzi,
Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd
Kate Innes, Prif
Swyddog Cyllid, Comisiwn y Senedd
Ed Williams,
Cyfarwyddwr Adnoddau y Senedd, Comisiwn y Senedd
Dogfennau
ategol:
FIN(6)-13-24 P1 –
Llythyr gan Gomisiwn y Senedd – 10 Mai 2024
FIN(6)-13-24 P2 –
Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Senedd 2024-25
Briff Ymchwil y
Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 39 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/1)
- FIN(6)-13-24 P2 – Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Senedd 2024-25, Eitem 3
PDF 5 MB
- Cyfyngedig 41 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/3)
Cofnodion:
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Atodol
Gyntaf 2024-25 gan y tystion a ganlyn: Hefin David AS, Comisiynydd y Gyllideb a
Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; Kate Innes,
Prif Swyddog Cyllid, Comisiwn y Senedd; ac Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau y
Senedd, Comisiwn y Senedd.
Cyfarfod: 16/05/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/05/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/05/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
5 Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25: Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol
Dogfennau
ategol:
FIN(6)-12-24 P2 –
Papur blaen
FIN(6)-12-24 P3 –
Llythyr gan Gomisiwn y Senedd – 10 Mai 2024
FIN(6)-12-24 P4 –
Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Senedd 2024-25
FIN(6)-12-24 P5 -
Amcangyfrif Atodol Cyntaf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2024-25
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 45 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
- Cyfyngedig 46 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/2)
- FIN(6)-12-24 P4 – Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Senedd 2024-25, Eitem 5
PDF 5 MB
- FIN(6)-12-24 P5 - Amcangyfrif Atodol Cyntaf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2024-25, Eitem 5
PDF 214 KB
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Pwyllgor y papur eglurhaol ac
amcangyfrifon atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; a Chomisiwn y
Senedd.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Comisiwn y Senedd i
sesiwn dystiolaeth ar ei amcangyfrif atodol.