Cyfarfodydd
Member Debate under Standing Order 11.21(iv)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/03/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 20/03/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 20/03/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Casgliadau cenedlaethol
NDM8505 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod:
a) casgliadau
cenedlaethol Cymru, sydd o dan ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa
Cymru, yn berchen i bawb yng Nghymru;
b) angen diogelu'r
casgliadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, tra hefyd yn parhau i gael eu
defnyddio i ysbrydoli ac ysgogi pobl o bob oed; ac
c) mynediad am ddim i’n
hamgueddfeydd cenedlaethol wedi bod yn llwyddiant diamheuol ers cyflwyno’r
polisi yn 2001, a bod y polisi hwn yn un y dylid ei warchod.
2. Yn nodi:
a) rhybuddion gan y
sefydliadau bod toriadau cyllidol refeniw a chyfalaf yn peryglu’r casgliadau
cenedlaethol, oherwydd gofodau a storfeydd anaddas a hefyd lleihad yn nifer y
staff arbenigol sydd bellach wedi eu cyflogi i ofalu amdanynt;
b) y pryderon y bydd
toriadau pellach yn gwaethygu’r sefyllfa; ac
c) cyfrifoldebau
Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer ein casgliadau
cenedlaethol.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) comisiynu panel o
arbenigwyr i sefydlu beth yw’r perygl i’r casgliadau, a gweithio gyda’r
sefydliadau a Llywodraeth Cymru i roi ar waith gynllun i’w diogelu;
b) gweithio gyda
Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, a’r undebau sy’n cynrychioli’r
staff yn y sefydliadau hyn, i sicrhau eu hyfywedd i’r dyfodol; ac
c) gweithio gydag
Amgueddfa Cymru i barhau gyda’r polisi mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd
cenedlaethol.
Cyd-gyflwynwyr
Mabon ap
Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.12
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8505 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod:
a) casgliadau
cenedlaethol Cymru, sydd o dan ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa
Cymru, yn berchen i bawb yng Nghymru;
b) angen diogelu'r
casgliadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, tra hefyd yn parhau i gael eu
defnyddio i ysbrydoli ac ysgogi pobl o bob oed; ac
c) mynediad am ddim i’n
hamgueddfeydd cenedlaethol wedi bod yn llwyddiant diamheuol ers cyflwyno’r
polisi yn 2001, a bod y polisi hwn yn un y dylid ei warchod.
2. Yn nodi:
a) rhybuddion gan y
sefydliadau bod toriadau cyllidol refeniw a chyfalaf yn peryglu’r casgliadau
cenedlaethol, oherwydd gofodau a storfeydd anaddas a hefyd lleihad yn nifer y
staff arbenigol sydd bellach wedi eu cyflogi i ofalu amdanynt;
b) y pryderon y bydd
toriadau pellach yn gwaethygu’r sefyllfa; ac
c) cyfrifoldebau
Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer ein casgliadau
cenedlaethol.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) comisiynu panel o
arbenigwyr i sefydlu beth yw’r perygl i’r casgliadau, a gweithio gyda’r
sefydliadau a Llywodraeth Cymru i roi ar waith gynllun i’w diogelu;
b) gweithio gyda
Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, a’r undebau sy’n cynrychioli’r
staff yn y sefydliadau hyn, i sicrhau eu hyfywedd i’r dyfodol; ac
c) gweithio gydag
Amgueddfa Cymru i barhau gyda’r polisi mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd
cenedlaethol.
Cyd-gyflwynwyr
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Tom
Giffard (Gorllewin De Cymru)
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
7 |
16 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.