Cyfarfodydd

P-06-1408 Dylid gwneud y mynediad i Ardd Gudd A4042 Goetre Fawr yn ddiogel ar gyfer cerddwyr a cherbydau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/03/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1408 Dylid gwneud y mynediad i Ardd Gudd A4042 Goetre Fawr yn ddiogel ar gyfer cerddwyr a cherbydau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd y datblygiad o gynnal astudiaeth ddichonoldeb gyda'r bwriad o wneud y gwelliannau y tynnwyd sylw atynt yn y ddeiseb. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd.

Cytunodd yr Aelodau hefyd i anfon y pwyntiau a'r cwestiynau pellach a godwyd gan y deisebydd at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ac anfon copi at yr awdurdod lleol.