Cyfarfodydd
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/03/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth
19 Mawrth 2024
·
Dadl:
Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (60
munud)
·
Datganiad
gan y Prif Weinidog: Datganiad ymddiswyddo (30 munud) - tynnwyd yn ôl
Dydd Mawrth
16 Ebrill 2024
·
Datganiad
gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol
(Cymru) (60 munud)
·
Cynnig i
amrywio’r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac
Etholiadau) (5 munud)
·
Bil
Seilwaith (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi (5 mun)
·
Dadl:
Cyfnod 4 Bil Seilwaith (Cymru) (15 munud)
Trafododd y
Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cydnabod ymddiswyddiad y Prif Weinidog yn
y Cyfarfod Llawn ar 19 Mawrth, a chytunwyd y byddai'r trefniadau'n cael eu
cwblhau yn dilyn trafodaeth bellach rhwng y Llywodraeth a'r Llywydd.