Cyfarfodydd
Busnes yr wythnos hon
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/03/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Dydd Mawrth
-
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
-
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.30pm
Dydd
Mercher
-
Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
-
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o
fynd y tu hwnt i 7.10pm
Gofynnodd
Heledd Fychan am ddatganiad gan y Llywodraeth yr wythnos hon ar y sefyllfa yn
Hirwaun lle mae nifer o drigolion wedi cael eu cynghori i adael eu heiddo
oherwydd bod RAAC yn cael ei ddarganfod. Dywedodd y Trefnydd y byddai
ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddarparu datganiad.
Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn cyhoeddi y bydd balot terfynol Bil
Aelod y Senedd hon yn cael ei gynnal ar 24 Ebrill ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn
ddydd Mercher.