Cyfarfodydd
Data
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/04/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Defnyddio Sianeli Cyfathrebu Anghorfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr bolisi ynghylch staff y Comisiwn
sy'n defnyddio sianeli cyfathrebu anghorfforaethol ar gyfer gweithgareddau sy'n
ymwneud â busnes. Mae’r sianeli hyn yn cynnwys llwyfannau negeseuon fel
WhatsApp a chyfrifon e-bost preifat.
Cytunodd y Comisiynwyr, mewn egwyddor, i wahardd y defnydd o sianeli
cyfathrebu anghorfforaethol. Byddai hyn yn berthnasol i staff y Comisiwn wrth
drafod busnes swyddogol gyda'i gilydd a chydag Aelodau. Cytunwyd y byddai’n
rhaid cael cynllun gweithredu cyn gwneud unrhyw newidiadau, ac y byddai'r
cynllun hwn yn cael ei drafod gan y Comisiynwyr ymlaen llaw. Nododd y
Comisiynwyr y dylai’r cynllun ragweld y byddai symud i lwyfan ar gyfer
negeseuon am fusnes y Senedd yn cael ei arwain gan Swyddogion y Comisiwn, yn
hytrach nag Aelodau.
Trafododd y Comisiynwyr arwyddocâd archifo eu cofnodion yn ddigidol a gofyn
i bapur gael ei lunio ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol ynghylch y cymorth y
gellid ei ddarparu.
Ni fyddai’r newid yn
effeithio ar Aelodau sy’n defnyddio WhatsApp i gysylltu ag Aelodau eraill,
aelodau o staff cymorth neu unigolion eraill nad ydynt yn gysylltiedig â’r
Senedd (fel etholwyr), p’un a ydynt yn defnyddio ffôn personol neu ffôn a
ddarperir gan y Comisiwn at y diben hwn.
Cyfarfod: 29/04/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Polisi Cadw a Gwaredu ar gyfer Microsoft Teams
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr ddefnydd y Comisiwn o Teams
a’r cynigion ynghylch sicrhau bod y rhaglen yn cael ei defnyddio ar gyfer
trafodaethau anffurfiol a byrdymor; y dylai gwybodaeth gorfforaethol bwysig
gael ei storio ar SharePoint; a bod gwybodaeth ar Teams yn cael
ei dileu yn awtomatig ymhen cyfnod penodol.
Cytunodd y Comisiwn mewn egwyddor ar gyfnodau dileu
awtomatig ar gyfer y Senedd gyfan mewn perthynas â sgyrsiau Teams, sef
28 diwrnod ar ôl creu sgwrs; a bod negeseuon Teams Channel yn cael eu
dileu 13 mis ar ôl y dyddiad creu.
Cytunodd y Comisiwn
hefyd y dylid ymgysylltu â’r Aelodau ynghylch cymhwyso’r polisi i bob Aelod o’r
Senedd a’u staff cymorth.
Cyfarfod: 29/04/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Data Digidol