Cyfarfodydd
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/03/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddodd y Trefnydd
wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth
12 Mawrth 2024
· Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr
Etholiadol) (60 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Y Rhaglen Cartrefi Clyd (30 45 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol: Cronfa Integreiddio Rhanbarthol (30 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i
gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar
wahân (15 munud):
o
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar
gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) - cynnig 1
o
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar
gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) - cynnig 2
Dydd Mawrth
19 Mawrth 2024
· Rheoliadau Gwasanaethau
Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio)
2024 (5 munud)
Gofynnodd
Heledd Fychan am ddiweddariad ar y cais a wnaed ar 20 Chwefror am ddatganiad
llafar ar fuddsoddi mewn addysg a hyfforddi gweithwyr proffesiynol gofal
iechyd. Dywedodd y Trefnydd na fyddai modd amserlennu datganiad llafar tan ar
ôl Toriad y Pasg.