Cyfarfodydd
NDM8494 Dadl Plaid Cymru - TB Buchol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 28/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 28/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 28/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - TB Buchol
NDM8494 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Yn cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi arolwg NFU Cymru
ar TB mewn gwartheg yng Nghymru sy'n datgan:
a) bod 70 y cant o
ffermwyr yn disgrifio dull Llywodraeth Cymru o ddileu TB fel un gwael iawn;
b) bod 85 y cant o
ffermwyr yn dweud bod TB yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl, a bod 63
y cant o'r ffermwyr a holwyd yn beio bywyd gwyllt am drosglwyddo TB; ac
c) y gost ariannol
gyfartalog amcangyfrifedig y flwyddyn i ffermydd a ddarparodd fanylion cost yw
£25,677, gyda data ar draws yr holl ymatebwyr yn dangos dros 30 y cant yn
amcangyfrif bod eu costau dros £10,000 a 13 y cant dros £50,000.
2. Yn gresynu at:
a) y baich ariannol ac
iechyd meddwl aruthrol ar ffermwyr yng Nghymru a berir gan TB gwartheg; a
b) y diystyriaeth
barhaus o farn arbenigol a thystiolaeth wyddonol gan Lywodraeth Cymru, ar draul
gwartheg Cymru a lles ariannol a meddyliol ffermwyr Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) cynnal gwerthusiad ac
arfarniad hirdymor o reolaethau gwartheg cyfredol ar frys i bennu eu
heffeithiolrwydd cymharol wrth atal a rheoli trosglwyddo clefydau;
b) gwneud newidiadau ar
unwaith i'r polisi lladd ar y fferm;
c) sefydlu polisïau sy'n
adlewyrchu bywyd gwyllt fel ffynhonnell haint ac sy'n caniatáu dulliau difa a
rheoli priodol a gwyddonol dilys; a
d) trafod gydag NFU
Cymru, UAC a chynrychiolwyr eraill o'r sector amaeth yng Nghymru i sefydlu
ffordd newydd ymlaen wrth bennu polisi TB gwartheg Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi’r
ymgysylltu sy’n parhau gyda’r undebau amaeth er mwyn datblygu dull o ddileu TB
sy’n gadarn a hefyd yn addas i’w diben.
2. Yn croesawu:
a) y gefnogaeth
sydd ar gael i ffermwyr sy’n dioddef effaith ddifrifol TB ar eu fferm, gan
gynnwys cefnogaeth gan Cymorth TB a hefyd y cymorth gan Tir Dewi; Rhwydwaith y
Gymuned Ffermio; FarmWell Cymru; Sefydliad DPJ; a
b) dull y Llywodraeth o
lunio polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chynnwys arbenigedd o’r radd
flaenaf wrth ddatblygu polisi ar TB gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, y Ganolfan
Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol yng Nghymru ym Mhrifysgol Aberystwyth
ac Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion y DU.
3. Yn cefnogi:
a) camau i werthuso’n
barhaus bolisi Llywodraeth Cymru ar TB, ar sail yr adolygiad targed ar gyfer y
garreg filltir gyntaf a fydd yn cael ei gynnal yn nes ymlaen yn 2024 a Bwrdd y
Rhaglen TB Buchol;
b) camau i sicrhau bod
adolygu’r polisi o ladd ar ffermydd yn flaenoriaeth i’r Grŵp Cynghori
Technegol newydd ar TB Buchol; ac
c) cynnwys undebau
ffermio ar Fwrdd newydd y Rhaglen TB.
4.
Yn gwrthwynebu’r gwaith o ddifa ar raddfa eang foch daear, sy’n rhywogaeth
gynhenid i Gymru, fel ffordd o reoli TB Buchol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.18
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8494 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Yn cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi arolwg NFU Cymru ar
TB mewn gwartheg yng Nghymru sy'n datgan:
a) bod 70 y cant o ffermwyr yn
disgrifio dull Llywodraeth Cymru o ddileu TB fel un gwael iawn;
b) bod 85 y cant o ffermwyr yn
dweud bod TB yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl, a bod 63 y cant o'r
ffermwyr a holwyd yn beio bywyd gwyllt am drosglwyddo TB; ac
c) y gost ariannol gyfartalog
amcangyfrifedig y flwyddyn i ffermydd a ddarparodd fanylion cost yw £25,677,
gyda data ar draws yr holl ymatebwyr yn dangos dros 30 y cant yn amcangyfrif
bod eu costau dros £10,000 a 13 y cant dros £50,000.
2. Yn gresynu at:
a) y baich ariannol ac iechyd
meddwl aruthrol ar ffermwyr yng Nghymru a berir gan TB gwartheg; a
b) y diystyriaeth barhaus o
farn arbenigol a thystiolaeth wyddonol gan Lywodraeth Cymru, ar draul gwartheg
Cymru a lles ariannol a meddyliol ffermwyr Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) cynnal gwerthusiad ac
arfarniad hirdymor o reolaethau gwartheg cyfredol ar frys i bennu eu
heffeithiolrwydd cymharol wrth atal a rheoli trosglwyddo clefydau;
b) gwneud newidiadau ar unwaith
i'r polisi lladd ar y fferm;
c) sefydlu polisïau sy'n
adlewyrchu bywyd gwyllt fel ffynhonnell haint ac sy'n caniatáu dulliau difa a
rheoli priodol a gwyddonol dilys; a
d) trafod gydag NFU Cymru, UAC
a chynrychiolwyr eraill o'r sector amaeth yng Nghymru i sefydlu ffordd newydd
ymlaen wrth bennu polisi TB gwartheg Cymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
cynnig heb ei ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi’r ymgysylltu sy’n parhau gyda’r undebau
amaeth er mwyn datblygu dull o ddileu TB sy’n gadarn a hefyd yn addas i’w
diben.
2. Yn croesawu:
a) y gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr sy’n dioddef
effaith ddifrifol TB ar eu fferm, gan gynnwys cefnogaeth gan Cymorth TB a hefyd
y cymorth gan Tir Dewi; Rhwydwaith y Gymuned Ffermio; FarmWell Cymru; Sefydliad
DPJ; a
b) dull y Llywodraeth o lunio polisi sy’n seiliedig ar
dystiolaeth a chynnwys arbenigedd o’r radd flaenaf wrth ddatblygu polisi ar TB
gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis
Buchol yng Nghymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a
Phlanhigion y DU.
3. Yn cefnogi:
a) camau i werthuso’n barhaus bolisi Llywodraeth Cymru ar
TB, ar sail yr adolygiad targed ar gyfer y garreg filltir gyntaf a fydd yn cael
ei gynnal yn nes ymlaen yn 2024 a Bwrdd y Rhaglen TB Buchol;
b) camau i sicrhau bod adolygu’r polisi o ladd ar
ffermydd yn flaenoriaeth i’r Grŵp Cynghori Technegol newydd ar TB Buchol;
ac
c) cynnwys undebau ffermio ar Fwrdd newydd y Rhaglen
TB.
4. Yn gwrthwynebu’r gwaith o ddifa ar raddfa eang foch
daear, sy’n rhywogaeth gynhenid i Gymru, fel ffordd o reoli TB Buchol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y
gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.