Cyfarfodydd
NDM8496 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 28/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 28/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 28/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy
NDM8496 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu y bydd
cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru yn arwain at
amcangyfrif o:
a) 122,200 o ostyngiad
yn nifer y da byw yng Nghymru;
b) 5,500 o swyddi yn
cael eu colli ar ffermydd Cymru; ac
c) colled o £199 miliwn
i'r economi wledig.
2. Yn cydnabod cryfder y
teimladau yn y gymuned amaethyddol yn erbyn y cynllun ffermio cynaliadwy.
3. Yn nodi'r arolwg a
gomisiynwyd gan y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yng Nghymru sydd
wedi canfod mai dim ond 3 y cant o ffermwyr yng Nghymru sy'n ymddiried yn
Llywodraeth Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) dileu'r gofyniad i
bob fferm gael 10 y cant o orchudd coed; a
b) dileu cynigion
presennol y cynllun ffermio cynaliadwy ac ail-ymgysylltu â'r sector ffermio i
ddatblygu cynllun newydd y mae'r gymuned ffermio yn ei gefnogi.
Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad
allweddol ffermio ac amaethyddiaeth at dirlun cymdeithasol, economaidd a
diwylliannol Cymru.
2. Yn croesawu
penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal lefelau cynllun y taliad sylfaenol yn
2024 er mwyn hwyluso’r broses o drosglwyddo i’r cynllun ffermio cynaliadwy.
3. Yn croesawu’r
ymgysylltu gyda ffermwyr a rhanddeiliaid sydd wedi arwain at newidiadau
cadarnhaol i’r gwaith o lunio’r cynllun ffermio cynaliadwy ers cyhoeddi’r
cynllun amlinellol yn 2022.
4. Yn cefnogi diwygiadau
pellach i’r cynllun ffermio cynaliadwy mewn ymateb i adborth oddi wrth ffermwyr
yn ystod yr ymgynghoriad diweddar.
5. Yn nodi mai’r
bygythiad mwyaf i sector ffermio cynaliadwy a diogelwch bwyd yng Nghymru yw
effaith y newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
6. Yn cymeradwyo bwriad
y cynllun ffermio cynaliadwy i wobrwyo ffermwyr Cymru sy’n cymryd camau i
ymateb i’r her honno.
7.
Yn gresynu at bolisi Llywodraeth y DU o waredu sicrwydd o ran cyllid i ffermydd
a lleihau cyllidebau, gan wneud y broses bontio yn fwy heriol ymhob un o
wledydd y DU, gan greu ansicrwydd i ffermwyr.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8496 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu y bydd cynllun
ffermio cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru yn arwain at amcangyfrif o:
a) 122,200 o ostyngiad yn nifer
y da byw yng Nghymru;
b) 5,500 o swyddi yn cael eu
colli ar ffermydd Cymru; ac
c) colled o £199 miliwn i'r
economi wledig.
2. Yn cydnabod cryfder y
teimladau yn y gymuned amaethyddol yn erbyn y cynllun ffermio cynaliadwy.
3. Yn nodi'r arolwg a
gomisiynwyd gan y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yng Nghymru sydd
wedi canfod mai dim ond 3 y cant o ffermwyr yng Nghymru sy'n ymddiried yn
Llywodraeth Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) dileu'r gofyniad i bob fferm
gael 10 y cant o orchudd coed; a
b) dileu cynigion presennol y
cynllun ffermio cynaliadwy ac ail-ymgysylltu â'r sector ffermio i ddatblygu
cynllun newydd y mae'r gymuned ffermio yn ei gefnogi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad allweddol ffermio ac
amaethyddiaeth at dirlun cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru.
2. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal
lefelau cynllun y taliad sylfaenol yn 2024 er mwyn hwyluso’r broses o
drosglwyddo i’r cynllun ffermio cynaliadwy.
3. Yn croesawu’r ymgysylltu gyda ffermwyr a rhanddeiliaid
sydd wedi arwain at newidiadau cadarnhaol i’r gwaith o lunio’r cynllun ffermio
cynaliadwy ers cyhoeddi’r cynllun amlinellol yn 2022.
4. Yn cefnogi diwygiadau pellach i’r cynllun ffermio
cynaliadwy mewn ymateb i adborth oddi wrth ffermwyr yn ystod yr ymgynghoriad
diweddar.
5. Yn nodi mai’r bygythiad mwyaf i sector ffermio
cynaliadwy a diogelwch bwyd yng Nghymru yw effaith y newid yn yr hinsawdd a
cholli bioamrywiaeth.
6. Yn cymeradwyo bwriad y cynllun ffermio cynaliadwy i
wobrwyo ffermwyr Cymru sy’n cymryd camau i ymateb i’r her honno.
7. Yn gresynu at bolisi Llywodraeth y DU o waredu
sicrwydd o ran cyllid i ffermydd a lleihau cyllidebau, gan wneud y broses
bontio yn fwy heriol ymhob un o wledydd y DU, gan greu ansicrwydd i ffermwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y
gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.