Cyfarfodydd

SL(6)458 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/03/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

NDM8511 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2024.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.03

NDM8511 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2024.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 06/03/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)

5 Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor nodyn y Gwasanaethau Cyfreithiol mewn perthynas â Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 a chytunwyd ar beidio â chymryd unrhyw gamau pellach.

 


Cyfarfod: 04/03/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 2)

2 SL(6)458 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.