Cyfarfodydd
Adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Biliau Cydgrynhoi
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/12/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Adolygiad Cyfyngedig o Reol Sefydlog 26C - Deddfau Cydgrynhoi'r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur yn ymwneud ag adolygiad cyfyngedig o Reol Sefydlog 26C
(Deddfau Cydgrynhoi'r Senedd), yn dilyn gohebiaeth a ddaeth i law gan y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar 3 Hydref a gododd rai
materion yn deillio o'i ystyriaeth o Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
Nododd y Pwyllgor fod ei Raglen Waith Weithdrefnol yn cynnwys adolygiad llawn o
Reol Sefydlog 26C sydd wedi’i drefnu ar ôl i'r Bil Cydgrynhoi nesaf gael ei
ystyried gan y Senedd.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
- cynnig bod y Senedd yn diwygio'r Rheolau
Sefydlog i egluro pryd y caiff Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ei chwblhau ac
ystyried adroddiad drafft ar y newidiadau arfaethedig yn y flwyddyn
newydd;
- ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i egluro, o ystyried natur gyfyngedig yr
adolygiad hwn, ei fod yn bwriadu ystyried y materion canlynol fel rhan o'r
adolygiad llawn o Reol Sefydlog 26C:
- manteision ac anfanteision diwygio'r Rheolau
Sefydlog sy'n amlinellu sut mae Bil Cydgrynhoi yn mynd rhagddo o Ystyriaeth
Fanwl y Pwyllgor i Ystyriaeth Fanwl y Senedd / Cyfnod Terfynol ; ac
- ymestyn yr amser rhwng adroddiad y pwyllgor
cyfrifol ac Ystyriaeth Fanwl y Senedd yn gallu dechrau/bod ystyried cynnig
Cyfnod Terfynol yn bosibl, er mwyn caniatau rhagor o
amser i'r Aelodau ystyried adroddiad ac argymhelliad y pwyllgor cyfrifol a
gweithredu arnynt.
Nododd y
Pwyllgor Busnes, pe pai sefyllfa’n codi yn y cyfamser
lle nad yw pwyllgor yn gallu dod i gytundeb ar ganlyniad ei Ystyriaeth Fanwl y
Pwyllgor, a bod pleidlais gyfartal yn digwydd, bydd cadeirydd y pwyllgor
cyfrifol yn cael cyngor gweithdrefnol gan y clerc yn unol â'r cynseiliau a'r
egwyddorion sylfaenol a gymhwysir o ran defnyddio pleidlais fwrw.
Cyfarfod: 03/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Rheol Sefydlog 26C - Deddfau Cydgrynhoi’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o
sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar ôl
iddo ystyried y Bil Cydgrynhoi cyntaf a gyflwynwyd yn y Senedd, sef Bil yr
Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a chytunodd i gynnal adolygiad cyfyngedig o'r
Rheolau Sefydlog perthnasol cyn cyflwyno'r Bil Cydgrynhoi nesaf, a chyn yr
adolygiad llawn y bwriedir ei gynnal yn ddiweddarach yn ystod y Senedd hon.