Cyfarfodydd

NDM8434 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 31/01/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG

NDM8434 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG, ar ffurf corff rheoleiddio.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) sefydlu corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer GIG Cymru i ddiffinio'r safonau proffesiynol a ddisgwylir gan reolwyr GIG Cymru a bod yn lle i droi ar gyfer y rhai sy'n teimlo nad yw'r safonau hynny wedi cael eu bodloni gan unrhyw reolwr unigol GIG Cymru, a byddai ganddo'r pŵer i rybuddio, cosbi neu dynnu unrhyw reolwr GIG Cymru oddi ar ei gofrestr a gynhelir;

b) diffinio beth yw rheolwr GIG Cymru a chynnal cofrestr o reolwyr GIG Cymru; ac

c) ei gwneud yn ofynnol i holl reolwyr y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r corff rheoleiddio proffesiynol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.59

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8434 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG, ar ffurf corff rheoleiddio.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) sefydlu corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer GIG Cymru i ddiffinio'r safonau proffesiynol a ddisgwylir gan reolwyr GIG Cymru a bod yn lle i droi ar gyfer y rhai sy'n teimlo nad yw'r safonau hynny wedi cael eu bodloni gan unrhyw reolwr unigol GIG Cymru, a byddai ganddo'r pŵer i rybuddio, cosbi neu dynnu unrhyw reolwr GIG Cymru oddi ar ei gofrestr a gynhelir;

b) diffinio beth yw rheolwr GIG Cymru a chynnal cofrestr o reolwyr GIG Cymru; ac

c) ei gwneud yn ofynnol i holl reolwyr y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r corff rheoleiddio proffesiynol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

22

0

50

Derbyniwyd y cynnig.