Cyfarfodydd

P-06-1393 Empowering Parental Choice: Opt-Out Rights and Inclusive Involvement in the RSE Program

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/01/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1393 Dylid grymuso rhieni i ddewis: Yr hawl i gael eithriad a chyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chydnabod pryderon gwirioneddol rhieni, ond nododd fod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n helaeth ar y cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a bod gwaith craffu manwl wedi'i wneud arno yn y Senedd. Yng ngoleuni hyn, nid yw’r Aelodau’n credu ei bod yn briodol cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb a chytunwyd i’w chau.

 

Yn ogystal â chau'r ddeiseb, awgrymodd yr Aelodau y dylai rhieni gysylltu â'u hysgolion unigol, Byrddau Llywodraethwyr ac awdurdodau lleol mewn perthynas â phryderon ynghylch cyfathrebu effeithiol a defnyddiol ynghylch cyflwyno'r cwricwlwm.