Cyfarfodydd

NDM8440 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Amaeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/12/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Amaeth

NDM8440 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y rôl eithriadol y mae'r sector amaethyddol yn ei chwarae yng Nghymru, gydag amaethyddiaeth yn cyfrannu at dros 220,000 o swyddi.

2. Yn nodi, am bob £1 a fuddsoddir yn y sector amaethyddol, y cynhyrchir £9 i'r economi ehangach.

3. Yn dathlu'r rôl y mae ffermydd teuluol yn ei chwarae wrth gefnogi'r Gymraeg a gwead cymdeithasol cefn gwlad Cymru. 

4. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno toriadau i gyllideb 2023-24 materion gwledig, sef cyfanswm o £37.5 miliwn.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd unrhyw doriadau yn cael eu gwneud i gyllideb cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer 2024.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn cytuno ag egwyddor Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i’w pholisi gadw ffermwyr Cymru ar y tir.

2.  Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2023 ac i beidio â dilyn y penderfyniad yn Lloegr i leihau taliadau i ffermwyr hyd at 55 y cant.

3.  Yn gresynu at y niwed a achosir i allu ffermio yng Nghymru i greu gwerth economaidd a swyddi yn sgil:

a)  polisi Llywodraeth y DU ar fewnfudo ers ymadael â’r UE;

b)  deiliadaeth drychinebus Prif Weinidog blaenorol y DU;

c)  penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu £243 miliwn oddi ar y cyllid ar gyfer cefnogi ffermydd yng Nghymru; a

d)  penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â rhoi ymrwymiad hirdymor o ran cyllid i gefnogi ffermydd.

4.    Yn cytuno bod angen cyfnod pontio teg a chyflym tuag at ddulliau ffermio cynaliadwy ar draws Cymru, er mwyn atgyfnerthu sefyllfa economaidd ffermwyr Cymru ac er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf yr argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8440 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y rôl eithriadol y mae'r sector amaethyddol yn ei chwarae yng Nghymru, gydag amaethyddiaeth yn cyfrannu at dros 220,000 o swyddi.

2. Yn nodi, am bob £1 a fuddsoddir yn y sector amaethyddol, y cynhyrchir £9 i'r economi ehangach.

3. Yn dathlu'r rôl y mae ffermydd teuluol yn ei chwarae wrth gefnogi'r Gymraeg a gwead cymdeithasol cefn gwlad Cymru. 

4. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno toriadau i gyllideb 2023-24 materion gwledig, sef cyfanswm o £37.5 miliwn.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd unrhyw doriadau yn cael eu gwneud i gyllideb cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer 2024.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig.

Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn cytuno ag egwyddor Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i’w pholisi gadw ffermwyr Cymru ar y tir.

2.  Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2023 ac i beidio â dilyn y penderfyniad yn Lloegr i leihau taliadau i ffermwyr hyd at 55 y cant.

3.  Yn gresynu at y niwed a achosir i allu ffermio yng Nghymru i greu gwerth economaidd a swyddi yn sgil:

a)  polisi Llywodraeth y DU ar fewnfudo ers ymadael â’r UE;

b)  deiliadaeth drychinebus Prif Weinidog blaenorol y DU;

c)  penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu £243 miliwn oddi ar y cyllid ar gyfer cefnogi ffermydd yng Nghymru; a

d)  penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â rhoi ymrwymiad hirdymor o ran cyllid i gefnogi ffermydd.

4.    Yn cytuno bod angen cyfnod pontio teg a chyflym tuag at ddulliau ffermio cynaliadwy ar draws Cymru, er mwyn atgyfnerthu sefyllfa economaidd ffermwyr Cymru ac er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf yr argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

14

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.