Cyfarfodydd

NDM8422 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/12/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru)

NDM8422 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff James Evans AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar 22 Tachwedd 2023 o dan Reol Sefydlog 26.91A.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.40

NDM8422 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff James Evans AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar 22 Tachwedd 2023 o dan Reol Sefydlog 26.91A.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.