Cyfarfodydd
Busnes yr wythnos hon
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/12/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
- Datganiad
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd ar gyfer Gwasanaethau
Mamolaeth a Newydd-anedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (30
munud)
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar 'Mwy na geiriau 2022-27' (30 munud)Tynnwyd yn ôlDatganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a chyhoeddi datganiad blaenoriaethau Gweinidogion Cymru - (30 munud)Tynnwyd yn ôl- Rheoliadau
Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 (
1510 munud)
· Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.25pm.
Dydd
Mercher
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig bod y Senedd yn ethol Samuel Kurtz yn aelod
o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn lle James Evans.
Tynnodd y Llywydd sylw at hyn a’r newidiadau a ganlyn i gyfarfod dydd
Mercher:
·
Cwestiynau
i Gomisiwn y Senedd (30 15 munud)
·
Cynnig i
ethol Aelod i bwyllgor (5 munud)
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn
debygol o fynd y tu hwnt i 6.25pm.