Cyfarfodydd
Three week timetable of Senedd Business
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/11/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Dywedodd y
Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a
Thwristiaeth yn bwriadu ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant,
Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i ofyn am estyniad
ar gyfer ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor ar weithlu'r diwydiannau
creadigol, ac a allai'r ddadl a drefnwyd ar gyfer 13 Rhagfyr gael ei gohirio
felly tan y flwyddyn newydd.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i aros am farn y Pwyllgor cyn aildrefnu busnes. Felly, cytunwyd
ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos
nesaf:
Dydd Mercher 13 Rhagfyr 2023 -
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol
gan Aelod (30 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol:
Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru (60
munud)
- Amser a neilltuwyd i’r
Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl fer: Peter Fox (Mynwy)
(30 munud)