Cyfarfodydd
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/11/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth
28 Tachwedd 2023
· Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu ar HIV - datganiad cynnydd
blynyddol (30 munud) I'w
gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig
Dydd Mawrth
5 Rhagfyr 2023
· Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Yr Economi Sylfaenol (30 munud) - aildrefnwyd i eitem 3
· Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl
(Dyddiad Cyhoeddi'r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023 (5 munud)