Cyfarfodydd

P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/11/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr ag eitem 3.1, P-06-1258 Gwneud unigolion yng Nghymru ag anableddau cudd yn gymwys ar gyfer y Bathodyn Glas.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddwy ddeiseb a nododd y lefel uchel o ddiddordeb mewn Bathodynnau Glas fel pwnc. Hefyd, tynnodd y Cadeirydd sylw at y cais am ddadl ar y mater hwn a'r nifer sylweddol o ymatebion i'r arolwg a gynhaliwyd gan STAND Gogledd Cymru.

Roedd yr Aelodau’n cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed eisoes ar y mater hwn, gan nodi bod y deisebau wedi bod ar agor ers cryn amser bellach. Gan nad oedd y deisebau wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer dadl, cytunodd yr Aelodau y byddai'n anodd cyfiawnhau gofyn am ddadl arnynt ar hyn o bryd.

 

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad mai’r ffordd fwyaf priodol ymlaen fyddai cynnwys y materion perthnasol yn adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor er mwyn iddynt gael eu monitro’n barhaus. Cytunodd yr Aelodau ei bod hi bellach yn briodol diolch i'r deisebwyr am eu hymdrechion sylweddol a'r cynnydd a wnaed eisoes, gan nodi bod y mater yn debygol o barhau i gael sylw yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 22/09/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i drafod y ddeiseb a chytunodd fod pryderon sylweddol heb eu datrys o hyd, fel y tynnwyd sylw atynt yng nghanfyddiadau arolwg STAND Gogledd Cymru. Cytunodd yr Aelodau i gadw’r ddeiseb ar agor, rhannu’r canfyddiadau arolwg ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, a gofyn am ddiweddariad. Byddai'r ddeiseb yn cael ei chadw ar agor wrth ddisgwyl ymateb.

 

Mynegodd y Pwyllgor ddiolch hefyd i STAND Gogledd Cymru, y rhieni, a phawb a gyfrannodd at y gwaith hwn.

 

Yn ogystal, cytunwyd i anfon canfyddiadau’r arolwg ymlaen at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 


Cyfarfod: 24/03/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 Adroddiad byr drafft: P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 10/03/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd bod y ddeiseb hon wedi bod o dan ystyriaeth ers cryn dipyn o amser, a bod nifer o gyfarfodydd wedi’u cynnal ar y mater, sy’n cyffwrdd ar sawl portffolio yn y Cabinet. Cytunodd y Pwyllgor fod digon o wybodaeth ar gael i ddrafftio adroddiad 1-2 dudalen o hyd, a chytuno arno, gydag argymhellion i Lywodraeth Cymru, cyn diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 20/01/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 10/06/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn iddi godi'r pryderon a amlygwyd gan y ddeiseb hon a cheisio eglurder ynghylch darparu cynllun y bathodyn glas.


Cyfarfod: 04/03/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi cyfarfod â'r deisebwyr ar adegau ac mae'n gefnogol iawn i gynsail y ddeiseb.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ohebiaeth ddiweddar a ddaeth i law oddi wrth Mark Isherwoord AS.

 

Cytunodd yr Aelodau i gymryd amser i fyfyrio ar yr ohebiaeth a gafwyd, ac i ysgrifennu'n ôl at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyda'r cwestiynau a godwyd gan y deisebydd, a'r llythyr a gafwyd oddi wrth Mark Isherwood AS.

 

 


Cyfarfod: 11/12/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae wedi cwrdd â'r deisebydd yn y gorffennol ynglŷn â mater ar wahân.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ddarparu sylwadau’r deisebwyr ac i ofyn am ymateb i’r cwestiynau a godwyd.

 

Cytunodd yr Aelodau hefyd i ofyn i'r gwasanaeth ymchwil a oes cynlluniau i ddefnyddio bathodynnau glas fel dull adnabod i bleidleisio mewn etholiadau.