Cyfarfodydd
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/11/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddodd y Trefnydd
wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth
28 Tachwedd 2023 –
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i
drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30
munud)
o
Rheoliadau
Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023
o Rheoliadau Gwahardd Llosgi
Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023
o
Gorchymyn
Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffosydd (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023
· Rheoliadau Iechyd Planhigion etc.
(Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 (5 munud)
· Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd
(Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023 (15 munud)
·
Dadl:
Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (15 munud)