Cyfarfodydd
NDM8391 Dadl Plaid Cymru - Gwrthdaro yn Israel a Gaza
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 08/11/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 08/11/2023 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 08/11/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Gwrthdaro yn Israel a Gaza
NDM8391 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio'r
ymosodiadau brawychus a gyflawnwyd gan Hamas yn erbyn dinasyddion Israel ac yn
galw am ryddhau gwystlon ar unwaith.
2. Yn nodi bod gan
Israel ddyletswydd i sicrhau gwarchodaeth, diogelwch a lles ei dinasyddion a
phoblogaeth feddianedig Palesteina.
3. Yn condemnio
ymosodiadau diwahân Llywodraeth Israel ar Gaza, sydd wedi arwain at farwolaeth
miloedd o bobl Palesteinaidd ddiniwed ac yn cytuno ag Ysgrifennydd Cyffredinol
y Cenhedloedd Unedig na ellir cyfiawnhau cosbi pobl Palestina ar y cyd.
4. Yn galw ar y
gymuned ryngwladol i:
a) uno i geisio
sicrhau cadoediad ar unwaith i ddod â'r dioddefaint dynol i ben a chaniatáu i
sefydliadau dyngarol gyrraedd y rhai mewn angen;
b) dwyn pwysau ar
Lywodraeth Israel i roi terfyn ar y gwarchae ar Gaza sy'n mynd yn groes i
gyfraith ryngwladol a hawliau dynol sylfaenol pobl Palesteina; ac
c) gwneud popeth o
fewn ei allu i greu coridorau cymorth diogel ac ystyrlon i Lain Gaza a galluogi
llwybr diogel allan o'r rhanbarth.
5. Yn sefyll mewn
undod â'r cymunedau Israelaidd a Phalesteinaidd yng Nghymru yr effeithiwyd
arnynt gan y gwrthdaro.
6. Yn annog y Senedd i
gefnogi datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn mynd ar drywydd heddwch parhaol yn y
rhanbarth.
Cefnogwyr
Adam Price (Dwyrain
Caerfyrddin a Dinefwr)
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Cefin Campbell (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Delyth Jewell (Dwyrain De
Cymru)
Heledd Fychan (Canol De
Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd)
Luke Fletcher (Gorllewin De
Cymru)
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor
Meirionnydd)
Peredur Owen Griffiths
(Dwyrain De Cymru)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio'r ymosodiadau,
y trais a'r codi braw a gyflawnwyd yn ddiwahân gan Hamas yn erbyn Israel ar 7
Hydref.
2. Yn cydnabod hawl
pob gwladwriaeth sofran, gan gynnwys Gwladwriaeth Israel, i amddiffyn eu hunain
a'u dinasyddion.
3. Yn credu y dylid
cynnal rhyfel yn unol â chyfraith ryngwladol, gan gynnwys osgoi clwyfedigion
sifil.
4. Yn gresynu at golli
bywydau sifiliaid a chlwyfedigion yn Israel, Gaza a'r Lan Orllewinol.
5. Yn estyn
cydymdeimlad dwysaf pobl ar draws Cymru i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid.
6. Yn cydnabod y
risgiau pellach a berir gan yr argyfwng dyngarol sylweddol yn Gaza.
7. Galw am:
a) rhyddhau gwystlon;
b) atal gwrthdaro er
mwyn caniatáu sefydlu coridorau dyngarol;
c) ailagor croesfan yr
Rafah i alluogi sifiliaid, gwladolion tramor, gweithwyr cymorth a chyflenwadau
dyngarol i groesi heb rwystr diangen;
d) i'r gymuned
ryngwladol weithio gyda chynrychiolwyr Israel a Phalesteina i ddod â'r
gwrthdaro i ben a thrafod setliad heddwch parhaol sy'n sicrhau diogelwch a
ffyniant i bawb, yn seiliedig ar yr egwyddor datrysiad y ddwy wladwriaeth.
Cyd-gyflwynwyr
Cefnogwyr
Cofnodion:
Dechreuodd
yr eitem am 17.28
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig
a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig
heb ei ddiwygio:
NDM8391 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig
bod y Senedd:
1. Yn condemnio'r
ymosodiadau brawychus a gyflawnwyd gan Hamas yn erbyn dinasyddion Israel ac yn
galw am ryddhau gwystlon ar unwaith.
2. Yn
nodi bod gan Israel ddyletswydd i sicrhau gwarchodaeth, diogelwch a lles ei
dinasyddion a phoblogaeth feddianedig Palesteina.
3. Yn
condemnio ymosodiadau diwahân Llywodraeth Israel ar Gaza, sydd wedi arwain at
farwolaeth miloedd o bobl Palesteinaidd ddiniwed ac yn cytuno ag Ysgrifennydd
Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig na ellir cyfiawnhau cosbi pobl Palestina ar y
cyd.
4. Yn
galw ar y gymuned ryngwladol i:
a) uno i
geisio sicrhau cadoediad ar unwaith i ddod â'r dioddefaint dynol i ben a
chaniatáu i sefydliadau dyngarol gyrraedd y rhai mewn angen;
b) dwyn
pwysau ar Lywodraeth Israel i roi terfyn ar y gwarchae ar Gaza sy'n mynd yn
groes i gyfraith ryngwladol a hawliau dynol sylfaenol pobl Palesteina; ac
c) gwneud
popeth o fewn ei allu i greu coridorau cymorth diogel ac ystyrlon i Lain Gaza a
galluogi llwybr diogel allan o'r rhanbarth.
5. Yn
sefyll mewn undod â'r cymunedau Israelaidd a Phalesteinaidd yng Nghymru yr
effeithiwyd arnynt gan y gwrthdaro.
6. Yn
annog y Senedd i gefnogi datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn mynd ar drywydd
heddwch parhaol yn y rhanbarth.
Cefnogwyr
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
13 |
19 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.