Cyfarfodydd

SICM(6)3 - Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2023

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/12/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 10)

Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol ar y Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2023

NDM8438 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiad Canlyniadol) 2023 yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2023

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.49

NDM8438 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiad Canlyniadol) 2023 yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2023

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 27/11/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 SICM(6)3 – Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) 2023: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor yn ffurfiol yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.


Cyfarfod: 13/11/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 8)

8 Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol. Hefyd nododd y Pwyllgor yn ffurfiol y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.