Cyfarfodydd
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddodd
y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes
y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023
·
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Sicrhau Treth
Gyngor Decach (30 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Anghenion Seilwaith
Trosglwyddo Trydan Cymru ar gyfer Sero Net (30 munud)
·
Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod
Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 (15 munud)
·
Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023 (15 munud)
·
Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i Fil yr Amgylchedd
(Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (15 munud)
Rhoddodd
y Trefnydd ddiweddariad i’r Pwyllgor Busnes ar ymdrechion i liniaru'r amser
gorffen hwyr arfaethedig i'r Cyfarfod Llawn ar 21 Tachwedd. Nododd y Trefnydd y
gallai newidiadau pellach ddod ac y bydd yn rhoi diweddariad pellach yn y
cyfarfod nesaf.