Cyfarfodydd

P-06-1372 Achub ein gwasanaeth bysiau hyblyg, Bwcabus

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/11/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1372 Achub ein gwasanaeth bysiau hyblyg, Bwcabus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod gwaith ar drafnidiaeth bysiau oedd yn mynd rhagddo, ac y byddai Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn mynd drwy’r Senedd. Cytunodd y Cadeirydd i dynnu sylw at y ddeiseb hon a deisebau perthnasol eraill yn y ddadl sydd i ddod ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn sgil hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 27/11/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1372 Achub ein gwasanaeth bysiau hyblyg, Bwcabus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb wrth ystyried y sesiwn dystiolaeth yn ymwneud â’r deisebau trafnidiaeth eraill. Cytunodd yr Aelodau i gynnwys y ddeiseb hon fel rhan o gynllun ar gyfer trafodaeth bwrdd crwn ehangach gyda'r diwydiant bysiau i edrych ar drafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau bysiau lleol.