Cyfarfodydd
Senedd Commission Annual Report and Accounts 2022-23
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/04/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Ymateb i argymhelliad 2 (craffu ar gyfrifon 2022-23)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth a ddarparwyd i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus ar ffurf diweddariad ar y rhaglen Ffyrdd o Weithio, yn benodol
ynghylch prosiectau Bae Caerdydd 2032, Siambr 2026 a Thŷ Hywel 2026.
Cyfarfod: 29/01/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Ymateb i argymhellion Adroddiad Craffu y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gyfer 2022-23
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus ei adroddiad ar Graffu ar Gyfrifon 2022-23 ar 13 Rhagfyr 2023, gan
wneud saith argymhelliad i’r Comisiwn.
Cytunodd y Comisiynwyr
ar ymateb i ymdrin ag argymhellion y Pwyllgor.