Cyfarfodydd

Senedd Commission Annual Report and Accounts 2022-23

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/04/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Ymateb i argymhelliad 2 (craffu ar gyfrifon 2022-23)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ffurf diweddariad ar y rhaglen Ffyrdd o Weithio, yn benodol ynghylch prosiectau Bae Caerdydd 2032, Siambr 2026 a Thŷ Hywel 2026.


Cyfarfod: 29/01/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Ymateb i argymhellion Adroddiad Craffu y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gyfer 2022-23

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ei adroddiad ar Graffu ar Gyfrifon 2022-23 ar 13 Rhagfyr 2023, gan wneud saith argymhelliad i’r Comisiwn.

Cytunodd y Comisiynwyr ar ymateb i ymdrin ag argymhellion y Pwyllgor.