Cyfarfodydd

NDM8369 Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau bws

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/10/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau bws

NDM8369 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod gwasanaethau bws yn hanfodol i gysylltedd cymunedau Cymru ac i blant sy'n teithio i'r ysgol.

2. Yn nodi bod y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi rhybuddio am doriadau pellach i ddarpariaeth gwasanaethau bysiau Cymru heb warantau pendant ynghylch cyllid hirdymor gan Lywodraeth Cymru.

3. Yn gresynu bod bron i 10 y cant o lwybrau bysiau Cymru wedi cael eu dileu dros yr haf oherwydd bod cyllid y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau wedi dod i ben.

4. Yn gresynu y bydd diwedd Grant y Rhaglen Datblygu Gwledig yn arwain at gau gwasanaeth fflecsi Bwcabus yn llwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro erbyn 31 Hydref ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cael ei adfer.

5. Yn credu y gellid gosod rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru ar sail gynaliadwy pe bai Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid HS2.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau bysiau ledled Cymru, buddsoddi ynddynt a’u hehangu.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru, erbyn diwedd 23/24, wedi darparu gwerth dros £200m o gyllid brys i’r diwydiant bysiau.

Yn nodi bod methiant Llywodraeth y DU i gadw at ei haddewid, sef na fyddem mewn sefyllfa waeth yn sgil Brexit, wedi arwain awdurdodau lleol at derfynu’r gwasanaeth Bwcabws.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.51

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8369 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod gwasanaethau bws yn hanfodol i gysylltedd cymunedau Cymru ac i blant sy'n teithio i'r ysgol.

2. Yn nodi bod y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi rhybuddio am doriadau pellach i ddarpariaeth gwasanaethau bysiau Cymru heb warantau pendant ynghylch cyllid hirdymor gan Lywodraeth Cymru.

3. Yn gresynu bod bron i 10 y cant o lwybrau bysiau Cymru wedi cael eu dileu dros yr haf oherwydd bod cyllid y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau wedi dod i ben.

4. Yn gresynu y bydd diwedd Grant y Rhaglen Datblygu Gwledig yn arwain at gau gwasanaeth fflecsi Bwcabus yn llwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro erbyn 31 Hydref ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cael ei adfer.

5. Yn credu y gellid gosod rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru ar sail gynaliadwy pe bai Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid HS2.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau bysiau ledled Cymru, buddsoddi ynddynt a’u hehangu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru, erbyn diwedd 23/24, wedi darparu gwerth dros £200m o gyllid brys i’r diwydiant bysiau.

Yn nodi bod methiant Llywodraeth y DU i gadw at ei haddewid, sef na fyddem mewn sefyllfa waeth yn sgil Brexit, wedi arwain awdurdodau lleol at derfynu’r gwasanaeth Bwcabws.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.