Cyfarfodydd

P-06-1364 Argyfwng deintyddiaeth yng Nghymru. Rhaid sicrhau bod gan bob oedolyn a phlentyn fynediad at ddeintydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/11/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1364 Argyfwng deintyddiaeth yng Nghymru. Rhaid sicrhau bod gan bob oedolyn a phlentyn fynediad at ddeintydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac o ystyried bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol eisoes wedi cynnal gwaith craffu manwl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion ei hadroddiad – nid yw’n glir beth arall y gallai’r Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd er mwyn ychwanegu gwerth pellach.

 

Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am amlygu'r mater pwysig hwn.