Cyfarfodydd

NDM8362 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/09/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

NDM8362 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn datgan nad oes ganddi hyder yn y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd o ystyried y nifer uchaf erioed o lofnodwyr i'r ddeiseb: 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya'.

Deiseb: Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.34

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8362 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn datgan nad oes ganddi hyder yn y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd o ystyried y nifer uchaf erioed o lofnodwyr i'r ddeiseb: 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya'.

Deiseb: Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

42

58

Gwrthodwyd y cynnig.