Cyfarfodydd
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 26/09/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r
Rheolwyr Busnes am y newid canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair
wythnos nesaf:
Dydd
Mawrth 10 Hydref 2023
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru (30
munud) – wedi’i ohirio tan 24 Hydref
Gwnaeth Heledd Fychan gais am ddiweddariad ar amseriad datganiad llafar
ynghylch newidiadau posibl i Gyllideb 2023-24. Cadarnhaodd y Trefnydd y
byddai'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad llafar yn
ystod mis Hydref.