Cyfarfodydd

Busnes yr wythnos hon

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/09/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiad a ganlyn i agenda dydd Mawrth:

  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymrwymiadau Sero Net (45 munud)

 

·       Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm.

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod wedi cytuno i ffotograffydd allu cael mynediad i'r Siambr yn rheolaidd dros yr wythnosau nesaf er mwyn creu llyfrgell fwy cynhwysfawr o ddelweddau y gellir eu defnyddio ar gyfer gohebiaeth gorfforaethol yn ogystal â chan yr Aelodau eu hunain.

 

Dydd Mercher

 

Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau bod amseriadau ar gyfer cyfraniadau wedi'u cyfyngu yn ystod dadleuon 30 munud y gwrthbleidiau. Dywedodd y Llywydd hefyd y bydd yn galw siaradwyr yn y fath fodd ag i sicrhau bod modd mynegi cydbwysedd barn yn ystod y trafodaethau.

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm.