Cyfarfodydd

Busnes yr wythnos hon

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/03/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

·       Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Rhaglen Buddsoddi ar gyfer Llifogydd 2024/25 (30 munud) - i'w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Ailgydbwyso gofal a chymorth (30 munud) - i'w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

·       Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

·       Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (5 munud):

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) - cynnig 1

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) - cynnig 2

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.50pm

 

Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei fod yn bwriadu galw ar arweinwyr y pleidiau a chynrychiolydd o’r grŵp Llafur i siarad yn ystod datganiad ymddiswyddo’r Prif Weinidog, ac y bydd y Prif Weinidog yn cael ei alw i ymateb unwaith, yn dilyn y cyfraniadau hynny.

 

Mynegodd Heledd Fychan siom ar ran grŵp Plaid Cymru y bydd y datganiad ar Ailgydbwyso gofal a chymorth yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig bellach.

 

Dydd Mercher

 

Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yr eitem a ganlyn yn cael ei hychwanegu at agenda dydd Mercher fel yr eitem gyntaf o fusnes, unwaith y bydd hysbysiad yn dod i law bod Ei Fawrhydi wedi derbyn ymddiswyddiad y Prif Weinidog: Enwebu’r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

 

Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod ceisiadau wedi'u cymeradwyo i gynnal gweithgareddau cyfryngau amrywiol yn y Siambr ac o'i chwmpas dros y ddau ddiwrnod nesaf.

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm