Cyfarfodydd

SL(6)382 - Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/10/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 5)

5 SL(6)382 - Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.


Cyfarfod: 03/10/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023

NDM8364 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023, yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Medi 2023.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.13

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8364 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023, yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Medi 2023.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

14

50

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 02/10/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 2)

2 SL(6)382 - Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.